Lansiad cyfres newydd Her yr Hinsawdd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Lansiad arbenning o gyfres ddogfen newydd, Her yr Hinsawdd, fydd yn dechrau ar S4C ddydd Mawrth 5 Gorffennaf.

Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Mehefin.

Amser: 6pm.

Lleoliad: Darlithfa Adeilad Wallace, Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Darperir offer cyfieithu ar y pryd.


Mae’r gyfres ddofen newydd hon yn dilyn y gwyddonydd yr Athro Siwan Davies o Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol, wrth iddi fynd ar daith bersonol i weld effeithiau newid hinsawdd ar wahanol agweddau o'r blaned. Mae’r gyfres yn edrych ar sut mae pobl yr Ynys Las a’r Maldives yn wynebu’r heriau wrth i’r blaned gynhesu, yr iâ doddi, a lefel y môr godi.

Yn ystod y lansiad bydd Jon Gower yn holi’r Athro Siwan Davies a’r criw cynhyrchu, Elin Rhys a Haydn Denman.