Hwyl yr Ŵyl Di-dâl yn Oriel Wyddoniaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd ffyn candi Nadoligaidd gludiog, addurniadau clychau magnetig, peli'r planedau a dynwaredwr car rasio yn cynnig ysbryd hwyl yr Ŵyl yr wythnos nesaf yn Oriel Wyddoniaeth Abertawe ar Ffordd y Dywysoges (Abertawe, SA1 5HE).

Simulator 2

Bydd Oriel Wyddoniaeth Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod o weithgareddau gwyddonol Nadoligaidd hyd at y diwrnod mawr ac mae modd cymryd rhan ym mhob un yn rhad ac am ddim. 

Bydd modd i deuluoedd a phobl ifainc alw heibio i'r lleoliad bob dydd o 10.00am tan 4.00pm o 17 Rhagfyr tan 23 Rhagfyr ac archwilio Gwyddoniaeth mewn ffordd hwyl.

Meddai Mary Gagen, Dirprwy Gyfarwyddwr Oriel Wyddoniaeth, 'Rwyf wrth fy modd ein bod yn cynnig ein rhaglen wyddoniaeth Nadoligaidd ar y cyd â Chynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe a Pheirianneg Rasio Prifysgol Abertawe (SURE). Mae gan bob un o'n gweithgareddau naws Nadoligaidd iddo, maent yn ymarferol ac maent yn cynnig yr union swm cywir o lanast. Mae'n rhaid rhoi cynnig ar ddynwaredwr car rasio SURE a byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymweld â chanol y ddinas yr wythnos nesaf i alw heibio i brofi hwyl gwyddoniaeth di-dâl a chael llun gyda'n coeden Nadolig o Gyfundrefn yr Haul.

Mae'r arddangosfa 'Stori Amser' hefyd yn parhau yn y lleoliad. Ble mae’r amser yn mynd? A all amser hedfan mewn gwirionedd? Ai rhith yw amser? Mae'r arddangosfa Stori Amser yn ateb y cwestiynau hyn. 

Wedi'u gwarchod gan y Tardis a char Back to the Future DeLoeran, gall ymwelwyr grwydro o amgylch yr arddangosion sy'n ymwneud ag amser gan ryngweithio â nhw, gwrando arnyn nhw, cyffwrdd â nhw a chwarae gyda nhw. Darganfyddwch sut y canfuwyd boson Higgs, a elwir yn aml yn ‘Gronyn Duw”, yn gyntaf yn ffug ymarfer Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr CERN, gwyliwch dalpiau iâ yn gollwng yn yr Ynys Las, dysgwch sut i ddweud yr amser â chylchoedd coed, edrychwch ar hanes y bydysawd wedi’i arddangos ar wal amser 30 metr, a gwrandewch ar synau gofod dwfn wrth i chi wylio fideo treigl amser o sêr y de.

Gan fod yn addas i bawb, cenhadaeth yr Oriel Wyddoniaeth yw cyflwyno rhyfeddodau gwyddoniaeth i'r cyhoedd trwy arddangosfeydd sy'n ymwneud â thema wyddonol benodol a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr i feddwl ac i archwilio'r effaith sydd gan wyddoniaeth a thechnoleg ar eu bywydau bob dydd.

  Oriel Science suite of partner logos