Hafau diflas yn gysylltiedig â newidiadau ar hap yn llwybr stormydd yr Iwerydd

Mae ymchwil a arweiniwyd gan academyddion o Brifysgol Abertawe’n dangos y gellir cysylltu tymereddau haf Ewrop â newidiadau ar hap yn safle’r llwybr stormydd yn croesi’r Iwerydd.

Global climate forcing factorsWrth i dymereddau Ewropeaidd cyfartalog godi a gostwng ar y cyfan mewn ymateb i ffactorau hinsoddol megis nwyau tŷ gwydr, mae ffactor arall sy’n effeithio’n gryf ar hinsawdd hafau  Ewrop – sef safle llwybr stormydd yr Iwerydd, sy’n amrywio ar hap ac a allai arwain at gymysgedd anrhagweladwy o hafau oer a gwlyb neu gynnes a sych yn y dyfodol.

Cyhoeddodd ymchwilwyr o’r Adran Ddaearyddiaeth  yn y Coleg Gwyddoniaeth  yr astudiaeth yn Nature Geoscience. Er i dymheredd haf cyfartalog Ewrop gynhesu ac oeri yn y gorffennol mewn ymateb i ffactorau allanol megis nwyon tŷ gwydr, ffrwydradau folcanig a faint o ynni sy’n dod o’r haul, dengys yr astudiaeth fod yr amrywiaeth yn y tymheredd rhwng gogledd a de Ewrop wedi newid mewn ffordd nas rhagwelwyd nad yw’n gysylltiedig â’r sbardunau hinsoddol allanol hyn. Gallai’r natur anrhagweladwy hon olygu cynnydd cyson mewn tymereddau yn ystod yr haf wedi’i gymysgu â hafau olynol sy’n anarferol o gynnes a sych, neu’n anarferol o oer a gwlyb yn y dyfodol.    

Meddai’r prif awdur, Dr Mary Gagen o Brifysgol Abertawe: “Nid yw hyn yn newyddion da. Nid yw pobl yn teimlo effaith tymheredd blynyddol y byd, neu hyd yn oed gyfandir, yn uniongyrchol; mae hinsawdd tymor neu flwyddyn benodol yn effeithio ar fywydau pobl, yn y lle y maent yn byw. Yn nhermau ansawdd bywyd, mae gwahaniaeth mawr rhwng haf cynnes a heulog braf ac un sydd naill ai’n rhy oer a gwlyb, neu’n annioddefol o boeth a sych.  Wrth i nwyau tŷ gwydr barhau i godi, rydym yn gwybod y bydd cynhesu cyffredinol ar draws Ewrop ar y cyfan ond o ystyried y canlyniadau hyn mewn perthynas â’r dyfodol, maent yn awgrymu ar ben y cynhesu hwnnw, fod amrywiadau mewn tymereddau haf yn cael eu rheoli’n gryf gan gyfeiriad y stormydd, a chan ei bod yn ymddangos bod safle’r llwybr stormydd yn digwydd ar hap yn hytrach na bod yn safle pendant, mae felly’n anrhagweladwy”. 

Gallai newidiadau yn y dyfodol o ran safle’r llwybr stormydd arwain at wrthgyferbyniadau rhanbarthol cryf o ran lefelau cynhesu. Meddai’r Athro Danny McCarroll, sydd hefyd o Brifysgol Abertawe: “Rydym yn gwybod y bydd hinsawdd Ewrop yn parhau i gynhesu, ond mae’r persbectif hirdymor a ddarperir gan yr astudiaeth hon yn awgrymu ein bod, mewn unrhyw le unigol, yn annhebygol o weld cynnydd cyson a di-dor mewn tymereddau haf. Gallem weld newidiadau anrhagweladwy yn safle’r llwybr stormydd haf, a fyddai’n arwain at gyfnodau anarferol o gynnes a sych neu oer a gwlyb a gallai’r newidiadau hynny bara am lawer o flynyddoedd neu hyd yn oed ddegawdau.”

Edrychodd yr astudiaeth ar fesuriadau hinsawdd offerynnol,  adluniadau hinsoddol owaddodion llyn a chylchoedd coed, ac efelychiadau modelau hinsoddol ar gyfer y fil o flynyddoedd diwethaf. Dengys y canlyniadau wrth i dymheredd haf cyfartalog Ewrop godi a disgyn gydag amser, mewn ymateb i ffactorau megis nwyau tŷ gwydr, ynni o’r haul a ffrwydradau folcanig, nid yw’r gwahaniaethau mewn tymheredd rhwng gogledd a de Ewrop yn newid yn gyfochrog - yn hytrach maent yn dilyn eu patrwm eu hunain ac ni ymddengys fod modd eu rhagfynegi.

Mae cydran anrhagweladwy newidiadau mewn tymereddau haf yn gysylltiedig â safle’r llwybr stormydd haf yn croesi’r Iwerydd, sy’n pennu ble y bydd y rhan fwyaf o’r glaw yn ystod yr haf.

Canfu’r astudiaeth:

  • Pan fydd systemau stormydd yn dilyn llwybr gogleddol, bydd hafau’n wlypach ac yn oerach yn y gogledd, ac yn gynhesach ac yn sychach yn y de.
  • Mae llwybr  deheuol yn arwain at hafau poeth a sych yng ngogledd-orllewin Ewrop. 
  • Dros y fil o flynyddoedd diwethaf, bu’r llwybr stormydd haf yn crwydro ar hap.
  • Yn wahanol i’r tymheredd cyfartalog ar draws y cyfandir, ni ymddengys fod llwybrau stormydd haf yn cael eu rheoli gan unrhyw ffactorau sy’n dylanwadu ar yr hinsawdd.

North Atlantic summer storm tracks over Europe dominated by internal variability over the past millennium.  

Mary H. Gagen, Eduardo Zorita, Danny McCarroll, Matthias Zahn, Giles H. F. Young ac Iain Robertson.