Gweinidog y Gymraeg yn agor Canolfan Gymraeg Tŷ’r Gwrhyd yng Nghwm Tawe

Cafodd Canolfan Gymraeg newydd Cwm Tawe, Tŷ’r Gwrhyd, ei hagor yn swyddogol gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC, ddydd Iau 7 Gorffennaf.

Y llynedd dyfarnwyd £300,000 drwy Grant Buddsoddi Cyfalaf Bwrw Mlaen i Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe er mwyn sefydlu Canolfan Gymraeg yng nghanol Cwm Tawe a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ardaloedd Cwm Tawe a Chwm Nedd.

Mewn partneriaeth â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, bydd Tŷ’r Gwrhyd, sydd wedi’i lleoli ym Mhontardawe, yn gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau Cymraeg er mwyn  darparu gwasanaethau a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer trigolion y rhanbarth.

‌Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau addysgol, gan gynnwys gwersi Cymraeg i oedolion a gweithgareddau cymdeithasol, mae Tŷ’r Gwrhyd hefyd yn gartref i swyddfeydd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, Urdd Gobaith Cymru a Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe. Mae gan Dŷ’r Gwrhyd hefyd siop lyfrau, ystafelloedd cyfarfod i’w llogi a gofod swyddfa.

Agoriad Ty'r Gwrhyd opening

O'r chwith i'r dde: Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi; Owain Glenister, Prif Weithredwr Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot; Alun Davies AC; Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; yr Athro Iwan Davies, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. 

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Pleser o'r mwyaf oedd croesawu Alun Davies i agor Tŷ’r Gwrhyd yn swyddogol. Mae’r ganolfan wedi bod ar agor ers ychydig wythnosau bellach, ac wedi denu cryn gefnogaeth leol. Mae’r grant wedi ein galluogi i greu canolfan sy’n rhoi nifer o fudiadau dan yr un to gan felly hwyluso cydweithio rhwydd er lles y Gymraeg. Mae’n gyrchfan amlwg i’r rhai sydd am fyw eu bywydau trwy’r Gymraeg neu ddysgu mwy am yr iaith ac mae yma weithgaredd ar gyfer pob oedran a gallu ieithyddol. Rydym eisoes mewn cwta fisoedd wedi profi sut mae’r adnodd hwn wedi amlygu’r iaith yng nghymoedd Tawe a Nedd ac wedi adfer rhywfaint ar yr iaith mewn nifer o deuluoedd.”  

Gall tua 21,000 (15.3%) o bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol hon siarad Cymraeg. Dangosodd Cyfrifiad 2011 fodd bynnag bod y Gymraeg yng Nghwm Tawe yn enwedig yn colli tir fel iaith gymunedol.

Meddai Alun Davies AC: “Bydd Tŷ’r Gwrhyd yn rhan bwysig o’r gymuned, ac yn cynnig gofod modern a chysurus i bobl o bob oed lle gallant fwynhau a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ardal hon yn un o bwysigrwydd strategol i’r iaith Gymraeg ac fe fydd y Ganolfan hon yn cyfrannu’n fawr tuag at annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg ynghyd â bod â’r hyder i ymarfer a defnyddio’u Cymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.”

Ty'r Gwrhyd

‌Mae model y Ganolfan Gymraeg yn un o brif argymhellion ymchwil a gyflawnwyd gan Heini Gruffudd a Steve Morris o Academi Hywel Teifi a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymraeg. Mae’r ymchwil yn ystyried y modd mwyaf llwyddiannus i wrthdroi newid ieithyddol mewn cymunedau lle nad yw’r Gymraeg bellach yn y mwyafrif. Creu Canolfannau Cymraeg pwrpasol ac adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol i’r rhai sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg oedd yr argymhelliad, a phenderfynodd Llywodraeth Cymraeg i gyllido cynllun a fyddai’n annog a chefnogi  awdurdodau lleol a sefydliadau Addysg Uwch i sefydlu canolfannau cymunedol Cymraeg ar hyd a lled Cymraeg drwy Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Canolfannau Iaith Gymraeg a gofodau dysgu Cymraeg.

Meddai’r Cynghorydd Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: “Braint yw gweld ôl ein partneriaeth gyda Phrifysgol Abertawe er mwyn datblygu canolfan Gymraeg fydd yn meithrin a chynnal yr iaith Gymraeg o fewn Castell-nedd Port Talbot. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i gyflwyno rhaglen fywiog a strategol a fydd yn cyfrannu at y gwaith o hyrwyddo’r iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a lleoliadau ffurfiol arall. Bydd yr adnodd gwych hwn yn cefnogi ac yn hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg, nid yn unig yng Nghwm Tawe, ond yn yr ardal leol ehangach.”