Mi fydd Prifysgol Abertawe yn cynnal dwy funud o dawelwch am 11am ddydd Gwener 11 Tachwedd i nodi Dydd y Cadoediad ac i gofio am y rhai a gollwyd mewn rhyfeloedd.

Mae Dydd y Cadoediad yn nodi'r adeg pan ddaeth cadoediad i rym ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf am 11am ar yr 11eg o Dachwedd ym 1918.

O dan arweiniad Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, bydd gwasanaethau coffa yn cael eu cynnal ar y ddau gampws - y tu allan i Dŷ Fulton, a thu allan i’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae. Bydd y gwasanaethau yn dechrau am 10.50am.

Gofynnir i staff academaidd ohirio dechrau eu darlithoedd a’u gwersi am 11am.