Gallai ysglyfaethwyr y cefnforoedd helpu i ailosod thermostat y blaned

Mae ymchwil newydd o Brifysgol Abertawe'n awgrymu bod ofn cael eu bwyta'n dylanwadu'n sylweddol ar anifeiliaid sy'n byw yn y cefnforoedd neu yn y parth arfordirol, yn ogystal â rheoli sut mae pobl yn defnyddio'r môr; gall hefyd effeithio ar lefelau planhigion morol sy'n ffurfio'r ecosystemau 'carbon glas' sy'n gweithredu fel thermostat y blaned.

Green Turtles (Chelonia mydas)photo credit BS and RD Kirkby

Mae'n hysbys y gall newidiadau i strwythur gweoedd bwyd - yn enwedig o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y prif ysglyfaethwyr - newid sut mae ecosystem yn gweithredu.  Yn benodol, mae colli ysglyfaethwyr ar frig y gadwyn fwyd, yn rhyddhau anifeiliaid is i lawr y gadwyn o fesurau rheoli poblogaeth o'r brig i lawr. Mae hyn yn arwain at gynnydd yn y boblogaeth a gorddibynnu ar adnoddau bwyd penodol, gan achosi 'argyfwng troffig'.

Fodd bynnag, mae'r erthygl ymchwil, a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Graeme Hays (gynt o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol) a gyhoeddwyd yn Nature Climate Change hefyd wedi dangos y gall colli ysglyfaethwyr y cefnforoedd gael effeithiau rhaeadrol difrifol ar allu'r cefnforoedd i storio carbon, ac, o ganlyniad ar newid yn yr hinsawdd.  Pan fydd ysglyfaethwyr yn diflannu o ecosystemau carbon glas, gall y cynnydd yn nifer y llysysyddion a welir o ganlyniad i hyn, ddinistrio gallu cynefinoedd carbon glas i storio carbon.

Meddai'r Athro Hays: "Pe byddech yn gwybod mai sero y cant oedd y posibilrwydd o gael eich bwyta gan siarc, a fyddech chi'n nofio'n amlach?  Yn fy marn i, mae'n deg dweud y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ateb yn gadarnhaol i'r cwestiwn hwn. Mae'r un peth yn wir am anifeiliaid. Er enghraifft, yn achos crwbanod, mae ofn cael eu bwyta gan siarcod yn cyfyngu ar symudiad ac ymddygiad poblogaethau cyfan. Ond pan fydd yr ofn hwnnw'n diflannu, gwelwn fod crwbanod yn bwyta mwy, yn bridio mwy ac yn mynd ble bynnag y mynnant.

Green turtle going up for air photo courtesy BS and RD Kirkby

"Er bod hyn yn swnio fel paradwys i grwbanod, mae'r ymchwil yn dangos bod enghreifftiau o argyfwng troffig yn fwy cyffredin bellach o ganlyniad i golli 90% o brif ysglyfaethwyr y cefnforoedd. Yn ein hastudiaeth, rydym yn adrodd ar effeithiau dilynol ar allu'r cefnforoedd i gipio a storio carbon: wrth i ysglyfaeth droi'n ysglyfaethwyr, y bwyd maent yn ei ddewis yw ecosystemau 'carbon glas' y cefnforoedd.

Mae'r astudiaeth wedi canfod y gall hyn ddigwydd mewn nifer o ecosystemau ond gwelir yr enghreifftiau mwyaf difrifol yn y parth arfordirol, o fewn ecosystemau morwellt, morfa heli a mangrof - sy'n cael eu hadnabod yn gyffredin fel ecosystemau 'carbon glas'.

Ffeithiau am ecosystemau carbon glas:

  • Mae ecosystemau carbon glas yn cipio ac yn storio carbon 40 gwaith ynghynt na choedwigoedd glaw trofannol megis un yr Amason ac maent yn storio'r carbon am filenia, sy'n golygu eu bod ymysg cronfeydd carbon mwyaf effeithiol y blaned.
  • Er eu bod yn meddiannu llai nag 1% o lawr y môr, amcangyfrifir bod ecosystemau carbon glas yn storio mwy na hanner carbon y cefnforoedd.
  • Cedwir y carbon sy'n cael ei storio gan ecosystemau carbon glas o fewn biomas planhigion ac yn y ddaear.
  • Mewn dolydd morwellt yn Bermuda ac Indonesia, er enghraifft, mae llystyfiant wedi cael ei golli ar raddfa anferth o ganlyniad i ostyngiad yn nifer yr ysglyfaethwyr sy'n bwyta llysysyddion, gan arwain at golled o 90%-100% y llystyfiant uwchben y ddaear.
  • Gall colli llystyfiant ar y fath raddfa ansefydlogi carbon a gafodd ei gladdu a'i gronni dros raddfeydd amser daearegol. Er enghraifft, mae marwolaeth morfa   hela 1.5km2 o faint yn Cape Cod, o ganlyniad i effaith rhaeadr droffig, wedi rhyddhau tua 248,000 o dunellau o garbon o dan y ddaear.
  • Pe bai rhaeadrau troffig yn effeithio ar 1% yn unig o'r ecosystemau carbon glas byd-eang, yn debyg i'r enghraifft uchod, gellid rhyddhau tua 460 miliwn o dunellau o CO2, bob blwyddyn sy'n gyfwerth ag allyriadau blynyddol tua 97 miliwn o geir.

Caribbean reef sharkMeddai'r Athro Hays: "Mae dealltwriaeth o rôl ysglyfaethwyr yn y broses cipio carbon yn ychwanegu at y pryder cynyddol ynghylch eu sefyllfa. Er enghraifft, amcangyfrifir bod mwy na 100 miliwn o siarcod yn cael eu lladd mewn pysgodfeydd bob blwyddyn, yn aml er mwyn tynnu eu hesgyll yn unig. Felly, mae'n hollbwysig atgyfnerthu ymdrechion cadwraeth a rhoi rheoliadau pysgota mwy llym ar waith er mwyn helpu i adfer poblogaethau o ysglyfaethwyr morol a chefnogi'r rôl anuniongyrchol bwysig a gyflawnir gan ysglyfaethwyr wrth liniaru newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal, mae'n rhaid i bolisïau a rheolaeth adlewyrchu'r ddealltwriaeth bwysig hon fel mater o frys. Mae'n ymwneud ag adfer cydbwysedd, fel y bydd gennym niferoedd iach a naturiol o grwbanod môr a siarcod er enghraifft."

Mae lluniau dyraniad uchel o Grwbanod Gwyrdd (Chelonia mydas) cydnabyddiaeth i BS ac RD Kirby.