Gallai ymchwil newydd helpu i wella cadwraeth môr-grwbanod yng Nghefnfor India

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod tymereddau tywod cymharol oer yn cynhyrchu cymhareb fwy cytbwys rhwng gwrywod a benywod mewn cytrefi môr-grwbanod, gan wella dealltwriaeth o'r ffordd orau o reoli cynefinoedd nythu er lles cadwraeth hirdymor môr-grwbanod.

Green Turtle 2Mae ymchwil blaenorol wedi awgrymu bod niferoedd môr-grwbanod benywaidd yn uwch mewn cytrefi pwysig - a elwir yn nythleoedd - a bod hyn yn gysylltiedig â thymereddau deor twymach.  Mae hyn wedi cynyddu pryderon ynghylch cadwraeth môr-grwbanod yn y tymor hir mewn byd sy'n cynhesu, gan wella dealltwriaeth ymchwilwyr sy'n mesur tymereddau ar draethau nythu ledled y byd o'r gymhareb rhwng gwrywod a menywod a gynhyrchir gan y nytleoedd hyn.

Bu astudiaeth newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Deakin a Phrifysgol Florida, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Scientific Reports, yn ymchwilio i effaith tymereddau cynyddol ar ddwy boblogaeth o fôr-grwbanod sy'n nythu ar Diego Garcia yn Ynysfor Chagos, Tiriogaeth Brydeinig yng Nghefnfor India.

Bu'r ymchwilwyr yn cofnodi tymheredd y tywod gan ddefnyddio cofnodwyr tymheredd bach wedi'u claddu ar ddyfnderoedd lle mae môr-grwbanod yn nythu ar Diego Garcia rhwng 2012 a 2014. Gosodwyd cofnodwyr yn y rhannau gwahanol o'r traethau nythu lle mae môr- grwbanod gwalchbig a môr-grwbanod gwyrdd yn nythu. Dangosodd canlyniadau'r astudiaeth fod tymereddau deor yn gymharol oer, gydag amrediad tymereddau cymedrig rhwng 28.1 a 29.1°C yn ystod yr haf deheuol gan ostwng i 26.9-27.5 °C yn ystod y gaeaf deheuol. Amcangyfrifodd yr ymchwilwyr fod y cymarebau rhyw ymhlith môr-grwbanod newydd-anedig Diego Garcia yn 53% gwrywod ar gyfer môr-grwbanod gwalchbig a 63% ar gyfer môr-grwbanod gwyrdd. 

Mae gan draethau Diego Garcia nodweddion sy'n cynnal tymereddau'r nythod yn oer, gan gynnwys:

  • llystyfiant naturiol cyflawn sy'n darparu cysgod trwm
  • glaw trwm
  • traethau cul sy'n sicrhau bod y môr-grwbanod yn nythu'n agos at y môr.

Mae'r canlyniadau hyn yn cyferbynnu â'r gyfran uchel o fenywod a gofnodir ar gyfer môr-grwbanod newydd-anedig yn y rhan fwyaf o nythleoedd ledled y byd ac mae'n amlygu sut gall nodweddion traeth lleol effeithio ar dymereddau deor.

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod safleoedd lle ceir cysgod trwm a llystyfiant naturiol cyflawn yn debygol o ddarparu amodau sy'n addas ar gyfer deor gwrywod mewn byd sy'n cynhesu. Mae'n debygol y bydd Ynysfor Chagos yn ffynhonnell môr-grwbanod gwrywaidd i gydbwyso'r poblogaethau o fôr-grwbanod yng Nghefnfor India.

Green Turtle

Meddai Nicole Esteban, un o awduron yr adroddiad: "Mae canfyddiadau ein hastudiaeth yn newyddion cadarnhaol ar gyfer môr-grwbanod yng ngorllewin Cefnfor India. Yn wahanol i nythleoedd eraill lle deorir benywod yn bennaf, mae gan draethau Ynysfor Chagos lystyfiant dwys ac mae effaith oeri'r llystyfiant yn creu cydbwysedd rhwng gwrywod a benywod. Mae hyn yn tanlinellu bod angen i reolwyr cadwraeth gynnal llystyfiant naturiol ar draethau er lles cadwraeth lwyddiannus môr-grwbanod."

Gellir darllen yr ymchwil, “Male hatchling production in sea turtles from one of the world’s largest marine protected areas, the Chagos Archipelago” a gyhoeddir gan Scientific Reports (2016). yma