Digwyddiad Rheoli Prosiectau Ystwyth ar Gampws y Bae – ar y cyd â'r Gymdeithas Rheoli Prosiectau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gweler manylion isod am ddigwyddiad cyffrous rydym yn eu cynnal ar y cyd â'r Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM), gyda siaradwyr gwadd o Brifysgol Abertawe a'r DVLA.

Ein nod wrth gynnal y digwyddiadau hyn yw gwneud digwyddiadau'r APM yn fwy hygyrch (o ran pynciau a lleoliadau) ac adeiladu cymuned rheoli prosiectau ar draws de Cymru sy'n cynnwys pob sector. 


Dyddiad:

Nos Fercher 30 Tachwedd 2016

Amser:

6pm Cofrestru, rhwydweithio a lluniaeth

6.30pm Cyflwyniad

8pm Diwedd

Lleoliad:

Yr Ysgol Reolaeth, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe SA1 8EN


Cyflwynir gan:

  • Rob Saddler, Pennaeth Pensaernïaeth a Datblygiad Datrysiadau, Prifysgol Abertawe
  • Neil Todd, Pensaer Datrysiadau, Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

Mae angen cadw lle: 

Mae'n hanfodol cadw lle drwy wefan APM. 

Yn rhad ac am ddim i Staff Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe'n Aelod Corfforaethol o APM, felly mae mynediad am ddim i'w staff. Wrth gofrestru ar y wefan, dewiswch yr opsiwn cofrestru sy'n dweud I am an employee of a Corporate Member.

Darperir bwffe.


Mae Rheoli Prosiectau Ystwyth yn broses ailadroddol sy'n canolbwyntio ar werth i gwsmeriaid yn gyntaf, gan flaenoriaethu rhyngweithio tîm dros dasgau, ac ymaddasu i realiti busnes presennol yn hytrach na dilyn cynllun penodedig.

Prif fantais rheoli prosiectau ystwyth yw'r gallu i ymateb i faterion wrth iddynt godi drwy gydol y prosiect. Trwy wneud newid angenrheidiol i brosiect ar yr adeg gywir, gellir arbed adnoddau ac, yn y pen draw, helpu i gyflawni prosiect llwyddiannus yn unol â'r amserlen a'r gyllideb. Mae Rheoli Prosiectau Ystwyth yn ymwneud â sut rydych yn cyflawni gwerth uchel ac ansawdd technegol o fewn eich cyfyngiadau amser a chyllidebol. Fodd bynnag, mae'r egwyddorion yn ehangach na datblygu meddalwedd - mae hefyd yn feddylfryd ar gyfer pobl sy'n chwilio am ymagwedd at reoli a fydd yn adeiladu consensws yn gyflym mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.

Gellir defnyddio sawl methodoleg i reoli prosiect ystwyth; Scrum a Lean yw dwy o'r rhai mwyaf adnabyddus. Nodwedd ddiffiniol prosiect ystwyth yw bod gwaith yn cael ei gynhyrchu a'i gyflawni mewn hyrddiau (neu sbrintiau) sy'n gallu para hyd at ychydig wythnosau Mae'r rhain yn cael eu hailadrodd i fireinio'r canlyniad i'w gyflawni nes ei fod yn diwallu anghenion y cleient.


Ar hyn o bryd, mae Neil Todd yn bensaer datrysiadau yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Mae wedi gweithio yn y diwydiant TG ers 1991, i ddatblygwyr meddalwedd annibynnol bach a chyflenwyr rhyngwladol mawr, ac mae'n arbenigo mewn systemau â meddalwedd wrth eu gwraidd.  

Mae nifer y dehongliadau o 'ystwyth' y mae Neil wedi dod ar eu traws bron cyfartal â'r nifer o bobl rwyf i wedi cwrdd â nhw sy'n honni eu bod yn gweithio ar 'brosiect ystwyth'. Felly, mae'n credu bod camddealltwriaeth difrifol ynghylch ystyr 'ystwyth' a bod y cysyniad yn cael ei weithredu mewn modd arwynebol yn unig. Yn 2015, ysgrifennodd Neil bapur a geisiodd chwalu'r dehongliadau arwynebol a'r mythau am 'ystwyth'. Enillodd hwn wobr ymarferydd proffesiynol y DU yn y categori Rheoli Prosiectau a daeth yn ail yn y Gwobrau Byd-eang Yn Tokyo.

Bydd Neil yn rhannu ei syniadau am Ystwyth, yn enwedig sut i gael dealltwriaeth glir o Ystwyth a cheisio chwalu'r mythau niferus sy'n gysylltiedig â'r cysyniad.


Rob Saddler yw Pennaeth Pensaernïaeth a Datblygiad Datrysiadau ym Mhrifysgol Abertawe lle mae'n gyfrifol am gyfeiriad strategol a chyflawni holl systemau gwybodaeth corfforaethol y Brifysgol. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ym maes peirianneg meddalwedd ac mae wedi bod yn defnyddio Scrum ers 2010.

Mae Rob wedi'i ardystio gan Scrum Alliance fel Perchennog Cynnyrch Scrum ac mae'n Bensaer Menter ardystiedig TOGAF. Mae'n arwain mentrau gwelliant a newid parhaus yn ei faes. Cyn gweithio i'r Brifysgol, roedd Rob yn Beiriannydd Meddalwedd gyda De La Rue International am 5 mlynedd a bu'n gwneud gwaith contract yn Angola, Affrica. Cyn hynny, bu'n Ddadansoddwr Risg Busnes yn adran Ymgynghoriaeth Risg Busnes Ernst & Young.

Bydd cyflwyniad Rob yn sôn am waith y tîm Datblygu Meddalwedd Busnes ym Mhrifysgol Abertawe, gan ganolbwyntio ar eu rhesymau dros weithredu methodoleg Scrum a sut maent yn gwneud hynny. Bydd y sgwrs yn amlygu pam y dylid ymdrin â rheoli prosiectau fel problem rheoli pobl yn y lle cyntaf, a bydd hefyd yn disgrifio sut defnyddiodd Rob batrymau sefydliadol i uchafu cymhareb arloesi'r tîm a gwreiddio diwylliant o ddysgu parhaus.