Datganiad yn dilyn refferendwm yr UE

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn gymuned o ymchwilwyr a myfyrwyr sy’n edrych tuag allan ac rydym yn gwerthfawrogi a dathlu ein cysylltiadau ag Ewrop a thu hwnt. Rydym yn cydweithio’n eang ag Ewrop wrth gefnogi symudedd myfyrwyr a staff, ariannu gwaith ymchwil ac adeiladu galluedd

Yn dilyn canlyniad refferendwm y DU, hoffwn sicrhau staff a myfyrwyr, yn enwedig y rhai hynny o Ewrop, y bydd Prifysgol Abertawe yn parhau ar sail ‘busnes fel arfer’. 

Cyn belled na chaiff unrhyw gamau gweithredu unochrog eu cymryd gan lywodraeth y DU (sy’n annhebygol), ni fydd unrhyw newid materol uniongyrchol i gyfranogiad sector prifysgolion y DU mewn rhaglenni’r UE megis Horizon 2020 ac Erasmus+, nac i statws mewnfudo myfyrwyr a staff presennol ac arfaethedig o’r UE. Disgwyliwn i grantiau a chontractau personol barhau o dan yr un amodau.

Mae Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon yn rhagweld proses gyd-drafod o ddwy flynedd rhwng y DU a’r Aelod-wladwriaethau, ac yn ystod y cyfnod hwn caiff telerau ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd eu penderfynu.

Bydd llawer o gwestiynau wrth gymuned Prifysgol Abertawe a’i phartneriaid ynglŷn ag ystyr y bleidlais hon. Byddwn yn mynd i’r afael â’r materion hyn fel blaenoriaeth wrth i’r manylion ddod yn glir.

Yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe

Am wybodaeth am sut fydd canlyniad Refferendwm yr UN yn effeithio ar fyfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i’n Tudalennau Rhyngwladol.