Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n croesawu Cymrodyr newydd o Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae pedwar o academyddion o Brifysgol Abertawe wedi’u cydnabod am eu rhagoriaeth a’u llwyddiant drwy eu hethol yn Gymrodorion o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Portrait barCyhoeddodd y Gymdeithas ganlyniadau Etholiad 2016 heddiw (20 Ebrill), ac o’r 46 o Gymrodyr newydd eleni, mae pedwar o Brifysgol Abertawe:

  • Yr Athro Daniel Williams, Athro Saesneg, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton
  • Yr Athro Faron Moller, Athro Cyfrifiadureg
  • Yr Athro James Durrant, Athro Sêr Cymru Solar
  • Yr Athro Mark Ian Rees, Athro Niwrowyddoniaeth Foleciwlaidd

‌Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadleuaeth frwd i ymuno â Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Etholir cymrodyr yn dilyn archwiliad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol. Mae Cymrodyr yn cynorthwyo gwaith y Gymdeithas drwy wasanaethu ar ei hamrywiol bwyllgorau a gweithgorau a thrwy ein cynrychioli ni’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar deilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru a thramor.

"Mae’n galonogol hefyd fod y gyfran o Gymrodyr benywaidd sydd wedi’u hethol eleni (26%) yn adlewyrchu ymdrechion parhaus y Gymdeithas i wella cynrychiolaeth menywod ymhlith y Gymrodoriaeth. Mae nifer cynyddol o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaeth, ac yn ddigon priodol caiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer a gaiff eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas.”

Ceir proses ethol drylwyr ag iddi bum cam ar gyfer ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymrodoriaeth ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau'n aelodau o'r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi'u geni yng Nghymru ond sy'n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.

Mae nifer o’r Cymrodyr newydd yn nodedig nid yn unig am eu llwyddiannau unigol, ond hefyd am eu bod yn ffigurau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol yng nghymdeithas Cymru.