Athro o Abertawe yn rhoi araith genedlaethol ar addysgu Economeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Rhoddodd yr Athro Steven Cook o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe araith yn sesiwn gyntaf y gyfres seminarau genedlaethol ar addysgu Economeg.

Professor Steven CookRhoddwyd cyflwyniad yr Athro Cook fel rhan o Gyfres Seminarau EQUATOR y Rhwydwaith Economeg, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol East Anglia yr wythnos hon (dydd Mawrth, 19 Ionawr), lle siaradodd am ei ddatblygiadau mewn addysgu econometreg, cangen o economeg sy'n cynnwys defnyddio technegau mathemategol ac ystadegol wrth ddadansoddi ffenomenau economaidd.

Meddai'r Athro Cook, "Roedd yn anrhydedd cael fy ngwahodd i gyflwyno sesiwn gyntaf cyfres EQUATOR y Rhwydwaith Economeg a chael y cyfle i rannu fy ngwaith ar addysgu econometreg yn Ysgol Reolaeth Abertawe â'r gymuned Economeg Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Roedd yn bleser derbyn adborth canmoliaethus ar fy araith gan y gynulleidfa."

Dilynodd y gwahoddiad sawl cydnabyddiaeth genedlaethol flaenorol am ymagwedd arloesol yr Athro Cook at addysgu, sydd wedi cynnwys ariannu gan yr Academi Addysg Uwch (HEA) ac ennill Gwobr Addysgu Neilltuol mewn Economeg HEA. 

Am ragor o wybodaeth am Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ewch i www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/colegau/ysgol_reolaeth.