Astudiaeth gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe'n darganfod bod pobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd yn amlach pan roddir rhybuddion llygredd aer iddynt

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi canfod bod pobl a oedd yn derbyn negeseuon rhybuddio i'w helpu i reoli eu hiechyd yn well pan fo llygredd aer yn uchel wedi mynd ymlaen i ddefnyddio gwasanaethau iechyd lleol yn fwy nag o'r blaen.

Bu'r ymchwil, o'r enw 'airAware Port Talbot: Evaluation of ân Air Quality Alert System’, yn gweithio gyda 180 o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot â chlefydau megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), asthma neu glefyd coronaidd  y galon a allai waethygu oherwydd dirywiad yn ansawdd yr aer. Nod yr astudiaeth oedd canfod a oedd rhybuddio pobl bod ansawdd aer yn mynd i fod yn wael yn eu helpu i osgoi cysylltiad â llygredd ar ddiwrnodau gwael, ac felly lleihau eu defnydd o'r gwasanaethau iechyd.

Bu'r tîm ymchwil, dan arweiniad yr Athro Ronan Lyons yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn gwerthuso airAware, gwasanaeth iechyd cyhoeddus a oedd yn anfon negeseuon amserol am ansawdd yr aer at 180 o bobl, drwy neges destun, e-bost neu ffôn, am hyd at ddwy flynedd. Roedd pobl yn derbyn negeseuon bod ansawdd yr aer yn mynd i ddirywio.  Roedd y negeseuon yn cynnwys argymhellion i fod yn fwy segur, aros gartref a dilyn cyngor arferol eu meddygon pe bai eu symptomau'n gwaethygu.

Roedd y prosiect ymchwil yn cymharu: niferoedd derbyniadau i'r ysbyty; ymweliadau ag adrannau brys; cysylltiadau â meddygon teulu a meddyginiaethau presgripsiwn ar gyfer y grŵp a oedd yn derbyn rhybuddion airAware a grŵp nad oedd yn eu derbyn, yn ystod y ddwy flynedd pan oedd y rhybuddion yn cael eu darparu, a chyn y cyfnod hwnnw.

Canfu'r tîm ymchwil fod derbyniadau brys i'r ysbyty ac ymweliadau ag adrannau brys wedi cynyddu'n sylweddol ar gyfer defnyddwyr airAware, o'u cymharu â'r rhai nad oedd yn ei ddefnyddio.

Roedd derbyniadau brys wedi dyblu ar gyfer yr holl gyflyrau iechyd a oedd yn cael eu harsylwi, a chynyddodd derbyniadau cleifion â chyflyrau resbiradol (COPD ac asthma) bedair gwaith. Ni welwyd newid sylweddol yn amlder ymweliadau â meddygon teulu, meddyginiaethau presgripsiwn, ymweliadau cleifion allanol a derbyniadau brys oherwydd clefyd coronaidd y galon ar gyfer y rhai a oedd yn derbyn rhybuddion airAware o'u cymharu â'r grŵp rheoli. 

Meddai Sara Thomas, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus: "Mae cynghori pobl â chyflyrau'r galon a'r ysgyfaint ynghylch osgoi llygredd aer yn parhau i fod yn bwysig, ond mae'r astudiaeth hon yn dangos nad oedd y system hon o rybuddio pobl wedi cael yr effaith y bwriadwyd iddi ei chael."

Wrth siarad am ganfyddiadau'r ymchwil, meddai'r Athro Ronan Lyons, Athro Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "O ganlyniad i'r astudiaeth hon, mae gwasanaeth airAware wedi dod i ben, ac mae'r arian wedi'i ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill."

"Mae angen gwaith pellach i ddeall pam yr oedd angen rhagor o ofal iechyd brys ar bobl a oedd yn defnyddio rhybuddion airAware. Un esboniad posib yw bod defnyddwyr airAware yn fwy ymwybodol o lefelau llygredd lleol ac felly'n fwy tebygol o geisio cyngor am eu hiechyd, yn enwedig os oeddent yn meddwl bod y llygredd yn effeithio ar eu hanadlu."

Gellir gweld manylion llawn yr adroddiad ar yr ymchwil yn Journal of Epidemiology & Community Health.