Astudiaeth Achos: Prosiect HAPPEN – Gwella iechyd, lles a chanlyniadau addysg plant mewn ysgolion cynradd yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect a leolir ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi’i anelu at wella iechyd, lles a chanlyniadau addysg plant mewn ysgolion cynradd yn Abertawe yn mynd o nerth i nerth.

Sefydlwyd HAPPEN, Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Rhwydwaith Addysg Gynradd, ym mis Ebrill 2015 ac fe’i hariennir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Lles y Boblogaeth a Rhaglen Dinas Iach Abertawe ac ar hyn o bryd mae dros 80 o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, ymchwil ac addysg yn ymwneud â’r prosiect.

HAPPEN logo

 

 

 

    

 

 

 

Mae HAPPEN yn canolbwyntio ar blant rhwng 9-11 oed a chwblheir asesiadau iechyd a lles yn rhan o brosiect Swan-Linx, lle cesglir data am fynegai màs y corff (BMI), ffitrwydd, maetheg, gweithgarwch corfforol, cwsg, lles, gallu i ganolbwyntio ac argymhellion plant ar gyfer gwella iechyd yn eu hardal. Trwy gasglu a dadansoddi data, mae HAPPEN yn darparu tystiolaeth i ysgolion cynradd yn Abertawe i’w helpu i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd.  

Meddai cydlynydd prosiect HAPPEN, Emily Marchant, ymchwilydd PhD a leolir yn yr Adeilad Gwyddor Data, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Mae iechyd da a lles ymhlith plant yn hollbwysig ar gyfer eu cyflawniadau yn y dyfodol, eu cyfleoedd gwaith, a’u hiechyd a’u lles pan fyddant yn oedolion. Ystyrir bod ysgolion mewn safle delfrydol i yrru newid ac i helpu i leihau anghydraddoldebau mewn iechyd ac addysg.

“Ond gan fod arolygwyr addysg yn rhoi mwy o sylw i lythrennedd a rhifedd yn yr ystafell ddosbarth, nid yw anghenion iechyd a lles plant yn cael eu bodloni, ac mae ysgolion yn teimlo’n ynysig wrth geisio mynd i’r afael â’r diffygion hyn. 

 “Er mwyn goresgyn hyn, roedd angen partneriaeth a oedd yn dod ag ystod o weithwyr proffesiynol o amryw feysydd ynghyd er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd y plant yn ogystal â chanlyniadau addysg ac anghenion y plant – a sefydlwyd HAPPEN.”

Casglwyd data gan 1,500 o blant yn ardal Abertawe. Drwy weithio gyda System Ddiogel ar gyfer Cysylltu Gwybodaeth Ddienw- SAIL – Banc Data a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n dileu hunaniaethau cyfranogwyr yn yr astudiaeth i ddiogelu eu preifatrwydd ac er mwyn cydymffurfio â’r holl reolau diogelu data, bu modd i ymchwilwyr o Sefydliad Farr ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd, a leolir ym Mhrifysgol Abertawe hefyd, gysylltu ac astudio data am ymddygiad plant o ran eu hiechyd, eu cofnodion iechyd (gan gynnwys cofnodion meddyg teulu a derbyniadau i’r ysbyty) a’u data addysg  (gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol Cyfnod Allweddol 1 a 2).

Yna aeth yr ymchwilwyr ati i ddefnyddio’r data hwn i ddarparu adroddiadau adborth i’r ysgolion a sefydliadau, a oedd yn cynnwys dietegwyr, datblygiad chwaraeon, elusennau lleol a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd cyhoeddus.  

Ysgrifennwyd yr adroddiadau’n unol â fframwaith y cwricwlwm i sicrhau y caiff dysg y plant ei chyfoethogi ac er mwyn galluogi ysgolion i weld sut y maent yn cymharu ag ysgolion eraill yn eu sir er mwyn adnabod unrhyw feysydd y mae angen rhoi sylw iddynt, megis, er enghraifft, canrannau uchel o blant nad ydynt yn bwyta brecwast.

Mae cymorth a chyngor parhaus ar gael i ysgolion drwy wefan HAPPEN, sy’n cynnig mynediad i staff addysgu i adnoddau y gallant eu defnyddio i wella ymyriadau iechyd a lles a sicrhau bod anghenion cwricwlwm yn cael eu bodloni hefyd.

 “Drwy ymgynghori, ymgysylltu a chydweithio, bu’r rhwydwaith yn llwyddiant hyd yn hyn ac mae’r nifer o ysgolion sy’n ymuno â’r rhwydwaith yn parhau i dyfu,” meddai Emily Marchant.

“Mae’r bartneriaeth rhwng ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr o sefydliad Farr yn darparu tystiolaeth sy’n helpu i fynd i’r afael ag iechyd, lles ac addysg plant.”

Meddai un dirprwy brifathro mewn ysgol gynradd yn Abertawe: “Pan dderbyniom ein pecyn data, roeddem yn bryderus darganfod bod oddeutu traean o’n plant ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn rhy drwm. Ar ben hynny, dywedodd 38% o’r plant nad oeddent yn hapus gyda’u ffitrwydd.

“Er gwaethaf y ffaith bod yr ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar iechyd, ffitrwydd a lles, mae’n amlwg bod angen i ni gynyddu’r proffil drwy ei wneud yn rhan o Gynllun Datblygu’r Ysgol.

“Rydym wedi cynyddu’r nifer o gyfleoedd sydd ar gael i blant. Rydym wedi meddwl am ein gwersi addysg gorfforol ac yn bwriadu ychwanegu elfennau mwy gweithgar at wersi eraill.

“Yn olaf, mae plant wrthi’n rheoli eu ffitrwydd eu hunain, drwy weithio gyda phartneriaid i bennu nodau personol.”

Am ragor o wybodaeth am brosiect HAPPEN ewch i www.happenswansea.co.uk, dilynwch HAPPEN ar Twitter @happenswansea, neu cysylltwch ag Emily Marchant drwy e-bostio E.K.Marchant@abertawe.ac.uk