Arbenigwyr yn archwilio hanes a diwylliant Cymru ym Mhrifysgol Harvard

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, actor sydd wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Emmy, ac un o feirdd cyfoes mwyaf adnabyddus Cymru ymhlith y siaradwyr yng Nghynhadledd NAASWCH 2016 a gynhelir ym Mhrifysgol Harvard rhwng 20 - 22 Gorffennaf.

Mae NAASWCH (Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru) yn gymdeithas amlddisgyblaethol o ysgolheigion, athrawon ac unigolion sy'n ymroddedig i hyrwyddo ysgolheictod mewn astudiaethau Cymreig, gan gefnogi astudiaeth o ddiwylliant Cymreig-Americanaidd a meithrin cysylltiadau rhyngwladol rhwng ysgolheigion, athrawon a'r gymuned Gymreig-Americanaidd.

320 x 240I’r perwyl yma, mae NAASWCH yn cynnal cynhadledd bob dwy flynedd er mwyn i ysgolheigion ym meysydd hanes, llenyddiaeth, iaith a'r celfyddydau gyflwyno a thrafod canfyddiadau eu hymchwil.

Mae cynhadledd 2016 wedi cael ei threfnu gan yr Athro Daniel G. Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton Prifysgol Abertawe ac sydd ar hyn o bryd yn Llywydd NAASWCH. Mae cysylltiad yr Athro Williams gyda Phrifysgol Harvard yn deillio o’i gyfnod fel myfyriwr MA yn yr Adran Geltaidd yn Harvard. Cyd-drefnydd y gynhadledd yw Dr Melinda Gray, Ysgrifennydd NAASWCH, sydd hefyd wedi astudio yn Harvard, gan arbenigo mewn Llenyddiaeth Gymharol.

Un o'r prif siaradwyr yng Nghynhadledd 2016 yw Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, 2000-2009, a fydd yn trafod a yw'r DU yn dadfeilio, a'r ffordd ymlaen i Gymru,  mewn sesiwn amserol a noddir gan Brifysgol Abertawe.

Matthew Rhys Mae’r actor Matthew Rhys, a enwebwyd yn ddiweddar ar gyfer gwobr Emmy,  yn traddodi Darlith Flynyddol Richard Burton yn y Gynhadledd: ‘From House of America to The Americans’. Bydd yn sgwrsio gyda'r Athro Williams am ei yrfa sy’n cwmpasu ei rôl yn ffilm  Ed Thomas am y Gymru ôl-ddiwydiannol hyd at ei rôl fel ysbïwr y Rhyfel Oer yng nghyfres The Americans.

Hefyd yn cyfrannu at y gynhadledd bydd y bardd a'r awdur adnabyddus, Menna Elfyn, a fydd yn trafod ei chofiant newydd o Eluned Phillips, yr unig ferch i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn ystod yr Ugeinfed Ganrif.

Prif siaradwyr eraill y gynhadledd yw’r Athro Marc Shell o Adran Lenyddiaeth Gymharol Prifysgol Harvard, a Sarah Prescott, Athro Rendell Prifysgol Aberystwyth. Mae eu darlithoedd hwythau yn cael eu noddi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. Mae noddwyr eraill y gynhadledd yn cynnwys y Brifysgol Agored a Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Efrog Newydd.

Bydd siop lyfrau fyd-enwog yr Harvard Book Store yn arddangos cyfrolau Cymreig yn ystod wythnos y Gynhadledd pan fydd dros 100 o gynadleddwyr yn ymgasglu ym Mhrifysgol Harvard ar gyfer y digwyddiad.

Meddai’r Athro Daniel Williams: "Nid yw Astudiaethau Cymreig wedi cael yr un sylw ag   Astudiaethau Gwyddeleg ac Albanaidd yn yr Unol Daleithiau. Mae'r gynhadledd hon, gyda dros 100 o gynadleddwyr o bob rhan o Ewrop a'r Unol Daleithiau yn cyfrannu iddi,  yn ceisio unioni'r sefyllfa. Bydd safon a statws y cyfranwyr a’r papurau yn sicrhau bod hwn yn ddigwyddiad hanesyddol ym maes Astudiaethau Cymreig. "