Animeiddiad newydd yn amlygu risgiau iechyd bod yn gaeth i'r rhyngrwyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffilm animeiddiedig newydd gan academyddion Prifysgol Abertawe yn ceisio amlygu canlyniadau ymchwil sy'n datgelu y gallai defnydd gormodol o'r rhyngrwyd niweidio'r system imiwnedd.

Mae'r ffilm newydd wedi'i seilio ar ymchwil gan academyddion o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a ganfu fod pobl â lefel uwch o broblemau caethiwed i'r rhyngrwyd yn dal mwy o heintiau ffliw ac anwydau na phobl sy'n llai caeth i'r rhyngrwyd, a gwnaethpwyd er mwyn targedu pobl risg uwch yn effeithiol.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan yr Athro Phil Reed a Rebecca Vile o Brifysgol Abertawe, Dr Lisa A. Osborne o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Dr Michela Romano a'r Athro Roberto Truzoli o Brifysgol Milan, ac fe'i cyhoeddwyd yn y cyfnodolyn rhyngwladol, PLOS One.

 

Darllenwch yr astudiaeth, ‘Problematic Internet Usage and Immune Function’

Gwerthusodd 500 o bobl rhwng 18 a 101 oed, a chanfu fod y rhai a nododd eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd yn ormodol hefyd wedi nodi eu bod yn dioddef mwy o symptomau annwyd a ffliw na phobl nad oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd yn ormodol. Dywedodd oddeutu 40% o'r sampl bod ganddynt o leiaf lefel isel o gaethiwed i'r rhyngrwyd – ac nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng dynion a menywod. Roedd pobl â lefelau uwch o gaethiwed i'r rhyngrwyd yn dioddef tua 30% yn fwy o symptomau annwyd a ffliw na'r rhai nad oedd eu defnydd o'r rhyngrwyd yn gymaint o broblem.

Mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod pobl sy'n treulio mwy o amser ar-lein yn dioddef lefelau uwch o ddiffyg cwsg a bod eu harferion bwyta'n waeth a'u diet yn llai iach. Maent hefyd yn gwneud llai o ymarfer corff ac yn tueddu i smygu mwy ac yfed mwy o alcohol. Gall y mathau hyn o ymddygiad niweidio'u systemau imiwnedd a'u gwneud yn fwy agored i afiechydon.

Meddai'r Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe, "Canfu ein hymchwil fod effaith y rhyngrwyd ar iechyd pobl yn annibynnol ar nifer o ffactorau eraill, megis iselder ysbryd, diffyg cwsg ac unigrwydd, sy'n gysylltiedig â lefelau uchel o ddefnyddio'r rhyngrwyd a iechyd gwael hefyd."

Awgrymodd yr astudiaeth y gall pobl sy'n gaeth i'r rhyngrwyd ddioddef lefelau uwch o straen pan nad oes ganddynt fynediad i'r we, a bod y cylch hwn o straen a rhyddhad sy'n gysylltiedig â chaethiwed i'r rhyngrwyd yn gallu newid lefelau cortisol – hormon sy'n gallu effeithio ar y system imiwnedd.

Ychwanegodd yr Athro Reed, "Mae'n bosib y bydd systemau imiwnedd pobl sy'n treulio llawer o amser ar-lein ar eu pennau eu hunain yn llai effeithiol hefyd o ganlyniad i ddiffyg cysylltiad â phobl eraill a'u germau."

 Dywedodd cyfranogwyr yr astudiaeth eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd am chwe awr y dydd ar gyfartaledd, ond roedd lleiafrif sylweddol o'r sampl yn ei ddefnyddio am fwy na 10 awr y dydd – ar wefannau cyfryngau cymdeithasol gan amlaf.  Roedd menywod a dynion yn defnyddio'r rhyngrwyd mewn ffyrdd gwahanol hefyd – gyda menywod yn defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a siopa'n fwy na dynion, a dynion yn dweud eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer gamblo/gemau a phornograffi'n fwy na menywod.