Ymchwilydd o Abertawe yn rhannu ei arbenigedd mewn Cwrs Hyfforddiant Uwch NATO ar Ddefnydd Seiberofod gan Derfysgwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilydd Seiberderfysgaeth Prifysgol Abertawe, David Mair, wedi dychwelyd o Ankara yn Nhwrci yn ddiweddar, lle y traddododd ddwy ddarlith yn ystod Cwrs Hyfforddiant Uwch NATO ar Ddefnydd Seiberofod gan Derfysgwyr.

David MairDavid, 28 oed, sydd o Glasgow yn yr Alban yn wreiddiol, ac sy’n fyfyriwr PhD o fewn Coleg y Gyfraith y Brifysgol, oedd cynrychiolydd y DU ar y cwrs, a drefnwyd gan Ganolfan Ragoriaeth Amddiffyn yn Erbyn Terfysgaeth NATO ac oedd yn cynnwys 12 o siaradwyr gwadd o chwe gwlad. 

Mynychwyd y cwrs gan 62 o gyfranogwyr o 18 o wledydd, o bob maes yn cynnwys y lluoedd arfog, y gwasanaethau cudd-wybodaeth, yr heddlu, llywodraethau a chyrff diogelwch eraill. 

Meddai cyfarwyddwr y cwrs, Dr Major Mehmet Nesip Ogun, o Fyddin Twrci: “Mewn achosion o derfysgaeth gyfoes, mae bron pob mudiad terfysgaeth yn elwa ar y Rhyngrwyd er mwyn cyflawni eu gweithredoedd, fel anfon negeseuon i luoedd o bobl o ran gweithgarwch propaganda, hwyluso cyfathrebu, a recriwtio aelodau newydd i’w mudiadau, codi arian, neu hyfforddi’r aelodau newydd eu recriwtio.

“Y maes o bryder yw, o ganlyniad i ecsbloetio’r Rhyngrwyd, ei bod wedi’i hymestyn i nid yn unig y deyrnas ddomestig, ond, yn ogystal â hyn, i arenas trawswladol a rhyngwladol. Mae angen cydweithredu a chydlynu ymdrechion yn drylwyr er mwyn atal mudiadau terfysgaeth rhag defnyddio’r Rhyngrwyd.

“Yn y cyd-destun hwn, mae’n rhaid i gydweithredu ar lefel wladol a gweithredu nad yw ar lefel wladol fod yn sefydliadol i greu mecanwaith rhwystro. Ers i derfysgaeth a mathau eraill o weithgareddau troseddol trawswladol ddod yn brif destunau ar gyfer yr arena ryngwladol, mae’r term “cydweithredu” wedi dod yn bwynt ffocws i bob llywodraeth.”

Mae cynnwys y cwrs yn ymdrin â phynciau fel defnydd Terfysgwyr o’r Rhyngrwyd, ac Ymateb i Seiberderfysgaeth gan ddefnyddio Fframweithiau Cyfraith Ryngwladol. 

Traddododd David ddwy ddarlith, yr un gyntaf ar ddealltwriaeth academaidd gyfredol am seiberderfysgaeth a dynnwyd o astudiaeth ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe gan y Prosiect Seiberderfysgaeth amlddisgyblaeth, aml-sefydliad; a’r ail ddarlith ar astudiaeth achos ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol gan derfysgwyr yn achos trychineb derfysgaeth Westgate yn Nairobi, Cenia ym mis Medi 2013.

Yn siarad ar ôl yr ymweliad, meddai David: “Rwy’n ddiolchgar iawn am gael y cyfle i gyflwyno yn ystod y digwyddiad rhyngwladol hwn ar bwnc mor ddiddorol a deinamig sydd wedi’i gysylltu mor agos â’m hymchwil fy hun. 

“Mae terfysgaeth seiberofod wedi taflu propaganda grwpiau terfysgaeth i’n bywydau bob dydd ac mae’n hanfodol ein bod yn astudio’r ffenomenon hon er mwyn deall y ffyrdd mwyaf effeithiol i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn. 

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Brifysgol a Chanolfan Ragoriaeth Amddiffyn yn Erbyn Terfysgaeth NATO am roi’r cyfle imi gyflwyno fy ymchwil fy hun ar y pwnc ac i ryngweithio ag arbenigwyr byd-eang o wledydd partner NATO.”

Am wybodaeth bellach am ymchwil David Mair mae modd i chi ei ddilyn ar Drydar @CyberTProject.

Am wybodaeth bellach am y Prosiect Seiberderfysgaeth ewch i http://www.cyberterrorism-project.org/ neu dilynwch nhw ar Drydar @CTP_Swansea.

Ac am wybodaeth bellach am Goleg y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i http://www.swansea.ac.uk/law/ neu dilynwch nhw ar Drydar @Swansea_Law