Sesiwn Cerddi Newydd gan Academi Hywel Teifi ym Mhabell Lenyddiaeth Tafwyl

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Unwaith eto eleni bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau llenyddol drwy gydol penwythnos Gŵyl Tafwyl. Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Orffennaf, bydd Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, yn cynnal sesiwn Cerddi Newydd yn y Babell Lenyddiaeth rhwng 3.00pm - 3.50pm.

TafwylRoedd Hywel Dafi (Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys) yn un o feirdd pwysicaf y 15fed ganrif ond nid yw ei waith erioed wedi cael ei gasglu a’i olygu tan nawr. Yn ystod y sesiwn, bydd cyfle i glywed Dr Cynfael Lake o Academi Hywel Teifi yn trafod ei gyfrol arloesol newydd sy’n cyflwyno cerddi Hywel Dafi i ni am y tro cyntaf. Bydd cyfle ecsliwsif hefyd i glywed cerddi newydd sbon yr Athro a’r Prifardd Christine James, enillydd categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2014 a’r Athro a’r Prifardd Tudur Hallam.

Tafwyl yw’r ŵyl flynyddol a sefydlwyd gan Fenter Caerdydd i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y Brifddinas. Uchafbwynt Tafwyl yw’r ffair a chynhelir yng Nghastell Caerdydd ar 4 a 5 Gorffennaf. Gyda digwyddiadau llenyddol, hanesyddol, gigs, comedi, ffilm, chwaraeon, dramâu, digwyddiadau i blant meithrin, a gweithgareddau i ddysgwyr, yn sicr fydd rhywbeth at ddant pawb!

Dysgwch fwy am Ŵyl Tafwyl.