Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe i wasanaethu fel canolbwynt ar gyfer gŵyl dyniaethau cenedlaethol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe wedi cael ei ddewis yn un o bum canolbwynt fydd yn rhan o Being Human 2015, yr unig ŵyl dyniaethau cenedlaethol yn y DU.

Mae 'Treftadaeth, Iechyd a Hapusrwydd' yn cynnwys archwiliad o les a threftadaeth drwy weithgareddau i’r cyhoedd (dadleuon, barddoniaeth, perfformiadau dramatig, celf ac anturiaeth) mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys: Gwaith Copr Hafod-Morfa, Canolfan Fferm Clun, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Champws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe. Gwnaed yr ŵyl yn bosibl drwy grant gan drefnwyr yr ŵyl, yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain.

‌Bellach yn ei ail flwyddyn, cefnogir Being Human gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yr Academi Brydeinig, a chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Yn dilyn cais llwyddiannus, dyfarnwyd cyllid i Brifysgol Abertawe er mwyn cynnal y digwyddiad yn ystod wythnos gŵyl Being Human, 12 - 22 Tachwedd 2015.

‌Bydd 'Treftadaeth, Iechyd a Hapusrwydd' yn hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil y dyniaethau a wnaed yn Ne-orllewin Cymru, yn ogystal â helpu i ddangos bywiogrwydd a pherthnasedd y dyniaethau. Mae 41 o grantiau wedi’u dyfarnu i brifysgolion a sefydliadau diwylliannol ledled y Deyrnas Gyfunol i gymryd rhan yn y 11 diwrnod o Being Human.

Being human drawingBydd y grant yn helpu'r brifysgol dod ag ymchwilwyr a chymunedau lleol i ymgysylltu â'r dyniaethau a datblygu eu dehongliad o’r dyniaethau.

Meddai Dr Elaine Canning, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau: “Rydym yn falch iawn o fod yn ganolbwynt sydd yn rhan o ŵyl Being Human 2015, ac rydym yn dymuno diolch i drefnwyr yr ŵyl am roi'r cyfle cyffrous hwn i ddod â'n hymchwil i fod yn rhan o’r gymuned. Bydd yr ŵyl yn cynnig cyfle arbennig i’r cyhoedd ac ysgolion fod yn rhan o weithgareddau lu, gan gynnwys drama, celf, sesiynau barddoniaeth a chystadlaethau mewn nifer o leoliadau ar draws y ddinas.”

Yn ystod yr ŵyl gyntaf yn 2014 trefnodd 60 o brifysgolion a sefydliadau diwylliannol dros 160 o ddigwyddiadau am ddim, gan rannu'r syniadau gorau a mwyaf heriol yn y dyniaethau gyda  chynulleidfaoedd ledled y wlad.

Mae rhaglen yr ŵyl ar gyfer 2015 yn argoeli i fod yn gyffrous, difyr a phryfoclyd, gyda rhywbeth i bawb yn ein cymunedau amrywiol.