Prynhawniau Agored Astudiaethau Ôl-raddedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal dau Brynhawn Agored Astudiaethau Ôl-raddedig i ddarpar fyfyrwyr y mis nesaf.

Singleton Park CampusAr ddydd Mercher, Tachwedd 11, o 1pm tan 5pm, bydd Prynhawn Agored yng Nghampws Parc Singleton ar gyfer Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Coleg y Gyfraith, y Coleg Gwyddoniaeth, a'r Ysgol Feddygol (D.S. Mae diwrnodau agored ar wahân ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion).

Ac ar ddydd Mercher, Tachwedd 18, o 1pm tan 5pm, bydd Prynhawn Agored yng Nghampws newydd y Bae ar gyfer y Coleg Peirianneg a'r Ysgol Reolaeth.

Bay CampusMae'r Brifysgol yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig ym mhob maes pwnc ac mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer ymchwil a chyrsiau ôl-raddedig a addysgir.

Yn ogystal â chanfod mwy am ysgoloriaethau a bwrsariaethau, bydd y Prynhawniau Agored Astudiaethau Ôl-raddedig yn rhoi'r cyfle i ddarpar fyfyrwyr:

-       Ganfod mwy am gyfleoedd ymchwil a chyrsiau ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe;

-       Cwrdd â myfyrwyr ôl-raddedig presennol a chlywed am eu profiadau astudio;

-       Cwrdd â chynrychiolwyr cyrsiau a siarad â thiwtoriaid derbyn am opsiynau ymchwil;

-       Siarad â'r staff a chael cyngor arbenigol ar wneud cais, llety, cyllid, gyrfaoedd a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol;

-       Mynd ar daith dywysedig o'n cyfleusterau rhagorol i ôl-raddedigion yng Nghampws Parc Singleton a Champws y Bae.

Meddai Dr Jenny Clarke, Swyddog Recriwtio Ôl-raddedigion Prifysgol Abertawe: "Gall cymhwyster ôl-raddedig eich helpu i sefyll allan o'r dorf, cynyddu'ch enillion, a dod o hyd i gyflogaeth ar lefel broffesiynol neu reoli. Gall cyrsiau ôl-raddedig hefyd fod y ffordd ddelfrydol o newid gyrfa ac ar gyfer nifer o gyrsiau, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol yn y maes pwnc.

"Trwy fynychu diwrnod agored i ôl-raddedigion, cewch gyfle i siarad â staff a myfyrwyr am ddewisiadau cwrs, ariannu a sut beth yw bywyd fel myfyriwr ôl-raddedig.

"Mae pob prifysgol yn wahanol felly mae'n bwysig dod o hyd i'r un sy'n iawn i chi. Archwiliwch y cyfleusterau, ymgyfarwyddwch â’r campws, a sicrhewch fod y cyrsiau sydd ar gael yn bodloni'ch gofynion."

Am ragor o wybodaeth, neu i gadw lle ar un o'r Prynhawniau Agored, ewch i www.swansea.ac.uk/postgraduate/open-days.