Prosiect y Brifysgol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr urddasol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae un o brosiectau prosiect Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr urddasol sy’n dathlu goreuon peirianneg Prydain.

METal project

Mae un o brosiectau prosiect Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr urddasol sy’n dathlu goreuon peirianneg Prydain.

Mae Prosiect Addysg Hyfforddiant a Dysgu Deunyddiau (METaL) y Coleg Peirianneg wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Partner Hyfforddiant y Flwyddyn Gwobrau Semta Skills.

Mae’r prosiect METaL yn brosiect unigryw sy’n seiliedig ar waith ac sy’n cynnig hyfforddiant deunyddiau a metaleg er mwyn ceisio mynd i’r afael â phrinder sgiliau o fewn y maes peirianneg deunyddiau yng Nghymru. Enwebwyd y prosiect am waith a wnaed gyda Tata Steel o ran hyfforddi eu staff cynhyrchu fel rhan o raglen ddysgu’n seiliedig ar waith.

Wedi’i leoli ym Mharc Ynni Baglan, y mae METaL yn cynnig ystod eang o raglenni hyfforddi y gellir eu llunio i ddiwallu anghenion diwydiannau a phrosesau diwydiannol penodol ac mae’n rhan o’r rhaglen dysgu’n seiliedig ar waith a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Gydgyfeirio’r UE trwy Lywodraeth Cymru.

Mae gwobrau SEMTA yn cydnabod cyflawniadau pobl a busnesau ar draws y sector peirianneg ac uwch weithgynhyrchu. Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod seremoni yn Llundain ar 24 Chwefror 2015.

Meddai Rheolwr y Prosiect, David Warren: “Rwy wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol y gwobrau eleni. Mae’n gydnabyddiaeth wych ar gyfer yr holl waith caled gan y tîm a, hefyd, y cynrychiolwyr sy’n ymgymryd â’r hyfforddiant.”