Prifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod Genedlaethol - Maldwyn a’r Gororau 2015

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd gan ymwelwyr i faes y Brifwyl ym Meifod gyfle eithriadol eleni i brofi’r arbenigeddau sydd ym Mhrifysgol Abertawe ac i glywed am y cyfleoedd y mae'n eu cynnig.

Am y tro cyntaf bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe er mwyn cyflwyno rhaglen orlawn o ddigwyddiadau llenyddol amrywiol ar lwyfan amgen a phoblogaidd Y Lolfa Lên.

Lolfa Lên 2015Yn agor arlwy Academi Hywel Teifi yn unig dîpî llenyddol Cymru, bydd Dr Fflur Dafydd yn sôn am ysgrifennu ei chyfres deledu lwyddiannus Parch gyda Non Vaughan Williams o’r Adran Astudiaethau Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus a hynny ar ddydd Llun am 12pm. 

‌Yn y sesiwn Cyfnod Newydd a Cherddi Newydd brynhawn Mawrth am 1pm, bydd cyfle i glywed am brofiadau yr Athro Christine James o Adran y Gymraeg wrth iddi fwrw golwg nôl dros ei chyfnod fel Archdderwydd Cymru yng nghmwni’r Prifardd T. James Jones. Bydd hi hefyd sôn am y prosiectau creadigol sydd ar y gweill ganddi wrth iddi edrych tua'r dyfodol. 

Fore Mercher am 11am bydd sesiwn arbennig Cynnal y Fflam yn nodi pum mlynedd ers marwolaeth yr Athro Hywel Teifi Edwards a sefydlu Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yr Athro M. Wynn Thomas yn trafod cyfraniad Hywel Teifi fel llenor ac ysgolhaig, yr Arglwydd Dafydd Wigley yn cofio am Hywel Teifi y gwleidydd a’r cenedlaetholwr a Dr Gwenno Ffrancon yn trafod gwaith a gweledigaeth Academi Hywel Teifi.    

Academi Hywel Teifi Yr Athro Peredur Lynch  fydd yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards eleni yn y Babell Lên fore Iau am 11am. Teitl y ddarlith fydd 'Awdlau Eisteddfodol 1858-2014: Pa un oedd yr orau? Pa un oedd y waelaf?' Bydd derbyniad i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a Chyfeillion Academi Hywel Teifi yn dilyn yn y Lolfa Lên ac yna bydd cyfle i glywed trafodaeth fywiog ar Lenyddiaeth, Hunaniaeth a Gwleidyddiaethrhwng yr Athro Daniel G. Williams, Dr Jasmine Donahaye a Dr Simon Brooks yn sgil cyhoeddi eu llyfrau newydd Wales Unchained, The Greatest Need, a Pam na fu Cymru, sy’n cyflwyno persbectifau ffres ac amrywiol ar Gymreictod a hunaniaeth.   

I gloi rhaglen Academi Hywel Teifi yn y Lolfa Lên, bydd sesiwn llên a cherdd Jacôs ar brynhawn Gwener am 1pm yn arddangos rhai o ddoniau creadigol Prifysgol Abertawe, sef yr Athro a’r Prifardd Tudur Hallam, yr Athro Daniel G. Williams a rhai o fyfyrwyr PhD Academi Hywel Teifi, Gwennan Evans ac Aneirin Karadog.

Yn ogystal â’r gweithgareddau yn y Lolfa Lên, bydd lleoliad glan môr godidog Prifysgol Abertawe hefyd i’w deimlo ar Faes y Brifwyl wrth i’n stondin arbennig ger y Llwyfan Berfformio estyn croeso i ddarpar-fyfyrwyr ymlacio ar y traeth tra’n dysgu am y cyfleoedd cyffrous sydd gan Brifysgol Abertawe i’w cynnig. Bydd staff a myfyrwyr wrth law drwy’r wythnos i gynnig gwybodaeth am gyrsiau arloesol a chyfoes y Brifysgol, nifer ohonynt yn gyrsiau cyfrwng Cymraeg, y gefnogaeth a gynigir i fyfyrwyr wrth baratoi am yrfaoedd llewyrchus a'r ymchwil o safon rhyngwladol a gynhelir yma.