Prifysgol Abertawe yn talu teyrnged i’r hanesydd a chyn-ddarlithydd y brifysgol, Dr John Davies

Mae’r Athro Emeritws Prys Morgan, cyn-ddarlithydd hanes ym Mhrifysgol Abertawe, wedi talu teyrnged i’r hanesydd, Dr John Davies fu fawr yn 76 mlwydd oed.

Dr John DaviesCychwynnodd gyrfa Dr John Davies fel darlithydd hanes ym Mhrifysgol Abertawe ym 1963, lle bu’n darlithio tan y 70au cynnar. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fel ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas, fe drefnodd brotest gyntaf y mudiad ar bont Trefechan ym 1963.

Yn awdur, darlledwr ac addysgwr, roedd Dr Davies yn un o brif haneswyr ei genhedlaeth, ac mae ei gyfrol Hanes Cymru, gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn Gymraeg ym 1990 wedi'i disgrifio fel y cofnod mwyaf cynhwysfawr o hanes y genedl. Roedd Dr Davies hefyd yn olygydd ymgynghorol a chyd-olygydd Gwyddoniadur Cymru.

Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2010 am ei gyfrol Cymru: 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw. Ymhlith ei lyfrau eraill, mae hanes teulu Ardalydd Bute a Chaerdydd, a hanes y BBC yng Nghymru.

Yn frodor o’r Rhondda, derbyniodd ei addysg mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlchllan a Thregaron cyn mynychu Coleg Prifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Wedi cwblhau ymchwil ar gysylltiadau teulu Bute a dinas Caerdydd fe’i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Hanes CymruAr ddechrau’r 1970au symudodd i Aberystwyth, lle bu am ddeunaw mlynedd yn warden Neuadd Pantycelyn ac yn darlithio, yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru.

Meddai’r Athro Emeritws Prys Morgan: “Ac yntau yn hanesydd, addysgwr a darlledwr carismataidd a phoblogaidd, roedd ynddo'r gallu arobryn i danio chwilfrydedd, goleuo a rhyfeddu ystod eang ac amrywiol o gynulleidfaoedd. Yn fwyaf arbennig, yn ei gyhoeddiadau Hanes Cymru a A History of Wales, fe ail-gyflwynodd y genedl i'w  hanes hi ei hun, a thrwy wneud, dadlennodd iddi ddealltwriaeth ddyfnach o'i hanian a'i hunaniaeth.

“Yn ystod ein cyfnod o ddarlithio yn yr adran hanes ym Mhrifysgol Abertawe gyda’n gilydd, fe daniodd fy niddordeb yn hanes Cymru drwy ei frwdfrydedd heintus. Caiff John ei gofio fel cymeriad rhadlon, ac fel un o Gymry mwyaf dylanwadol ein hoes. Mae ar Gymru ddyled mawr iddo”.