Prifysgol Abertawe yn falch o noddi dychweliad y Red Arrows i Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2015

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd un o dimau arddangos erobatig gorau'r byd, Red Arrows y Llu Awyr Brenhinol, yn hedfan uwchben Bae Abertawe unwaith eto ar 11 a 12 Gorffennaf yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru gyda nawdd a chefnogaeth Prifysgol Abertawe.

Meddai llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe, "Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru'n un o ddigwyddiadau mwyaf y flwyddyn yn Abertawe ac mae'n anrhydedd gennym noddi'r Red Arrows byd-enwog.

"Bydd ehangder hyfryd Bae Abertawe, sy'n cysylltu Campws Parc Singleton â Champws newydd y Bae, yn gefnlen berffaith ar gyfer eu harddangosiad gwefreiddiol."

Sioe Awyr Genedlaethol Cymru Yn dychwelyd i'r tîm fel Red 1 eleni - ac yn arwain yr wyth peilot arddangos eraill sy'n ffurfio Diemwnt Naw enwog y Red Arrows - y mae Arweinydd Sgwadron David Montenegro, a fu'n beilot tîm rhwng 2009 a 2011.

Meddai, "Mae'n gyffrous dros ben dychwelyd i'r tîm fel Red 1 a chael cyfle arall i weithio gyda pheilotiaid, peirianwyr a staff cymorth mor ddawnus, a pharhau'r berthynas agos iawn rhwng y lluoedd arfog, y Red Arrows a chyhoedd y DU.

"I mi, mae tîm y Red Arrows yn ficrocosm o'r Llu Awyr Brenhinol. Mae aelodau'r tîm yn cynrychioli croestoriad eang o'r bobl hyfforddedig iawn, hynod broffesiynol ac anhunanol eu cymhelliant sy'n rhan o'r Llu Awyr Brenhinol. Mae ganddynt brofiad ymarferol hefyd o nifer mawr o dasgau dyngarol a chyrchoedd ymladd ledled y byd.

"Fel llysgenhadon byd-eang y Llu Awyr Brenhinol, lluoedd arfog y DU a'i masnach a'i diwydiant, mae'r Red Arrows yn ymdrechu'n barhaus i arddangos yr hyn sy'n wych am Brydain.

"Mae bod yn aelod ac yn arweinydd sgwadron sydd mor eiconig ac yn rhan gynhenid o'r ysbryd Prydeinig, yn gyfrifoldeb sylweddol ac yn anrhydedd enfawr."

Y Red Arrows yw wyneb cyhoeddus y Llu Awyr Brenhinol ac maent yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig gartref a thramor.  Mae'r Red Arrows hefyd yn cynorthwyo wrth recriwtio aelodau'r lluoedd arfog, yn hyrwyddo rhagoriaeth y Llu Awyr Brenhinol, yn cefnogi diwydiant Prydeinig ac yn cynorthwyo â diplomyddiaeth amddiffyn.

Mae pencadlys y tîm yn RAF Scampton, Swydd Lincoln, ac mae'n cynnwys 120 o bobl, gan gynnwys peilotiaid, peirianwyr a staff cymorth hanfodol.  Gyda'i gilydd, maent yn arddangos rhagoriaeth a galluoedd y Llu Awyr Brenhinol a phobl fedrus a dawnus y Gwasanaeth.

 


Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig rhaglenni Peirianneg Awyrofod i israddedigion ac uwchraddedigion drwy ei Choleg Peirianneg. Mae ymchwil o'r radd flaenaf y Coleg, ei gysylltiadau â diwydiant ynghyd â'i gyfleusterau rhagorol yn darparu cychwyn gwych i yrfaoedd ei fyfyrwyr a'i staff.

Cynhelir Diwrnodau Agored Israddedig nesaf y Brifysgol ddydd Sadwrn, 10 Hydref a dydd Sadwrn, 31 Hydref a byddant yn cynnig cyfleoedd i ddarganfod mwy am y maes astudio cyffrous hwn - yn ogystal â'r ystod lawn o raglenni israddedig sydd ar gael yn Abertawe.