Prifysgol Abertawe yn croesawu’r penderfyniad i gymeradwyo lagŵn Bae Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu’r newyddion bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, Amber Rudd, wedi rhoi sêl bendith i gais cynllunio cynllun morlyn llanw ym Mae Abertawe.

‌Bydd y cynllun gwerth £1 biliwn yn creu ynni drwy ddefnyddio tyrbinau tanddwr i harneisio grym y llanw; hon fydd yr orsaf ynni gyntaf i gael ei phweru gan lif y dŵr o lagŵn. Disgwylir i’r lagŵn fod yn weithredol yn 2018, ac mae disgwyl i’r safle greu 500GWH o ynni bob blwyddyn, digon i gyflenwi mwy na 155,000 o gartrefi, a hynny am hyd at 120 o flynyddoedd.

Byddai'r cynllun yn golygu bod 500 o weithwyr yn cael eu cyflogi pan fydd y gwaith ar ei anterth, ac mae disgwyl i'r prosiect cyfan greu 1,850 o swyddi yn y maes adeiladu. 

Aerial1 Bay Campus

Llun: Campws y Bae, Prifysgol Abertawe.

 

 

 

 

 

 

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy-Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: “Bydd y Brifysgol yn agor Campws y Bae cyn hir, prosiect gwerth £450 miliwn mewn lleoliad wirioneddol syfrdanol wrth ymyl y traeth ac yn agos i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

“Bydd adeiladu’r morlyn llanw yn gwneud y lleoliad hwn hyd yn oed yn fwy arbennig, gan wella’r cyfleoedd chwaraeon dŵr sydd ar gael, a gwella ymhellach y profiad heb ei ail rydym eisoes yn cynnig i’n myfyrwyr.

“Yn ogystal, edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'r Tidal Lagoon Company ym meysydd ymchwil. Mae ein cyfleusterau ymchwil yn rhai o safon fyd-eang, er enghraifft, ar Gampws y Bae mae gennym beiriant tonnau mwyaf Ewrop yn ein Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni newydd, a fydd hynny’n hwyluso’r gwaith o fodelu amodau’r llanw, gan wella canlyniadau ymchwil yn y dyfodol.”