Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi dros 60 o swyddi newydd gyda Gwasanaethau'r Campws ar Gampws newydd y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Llai na phedwar mis cyn agor ei Champws newydd yn y Bae gwerth £450 miliwn, mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ymgyrch recriwtio sylweddol sydd â'r nod o ddenu staff newydd i helpu i weithredu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau ar draws y safle newydd.

Mae mwy na 60 o swyddi ar gael gyda Gwasanaethau'r Campws ar y safle ar Ffordd Fabian, gan gynnwys rolau Arweinydd Tîm ac Aelod Tîm, ar draws amrywiaeth eang o feysydd, er enghraifft, arlwyo, bariau, tiroedd, cyfleusterau, gwasanaethau cwsmeriaid, chwaraeon a hamdden.

Bydd lle i 5000 o fyfyrwyr a 1000 o staff ar Gampws y Bae pan fydd yn agor ym mis Medi 2015.

Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor:  "Mae Prifysgol Abertawe'n Brifysgol o fri rhyngwladol sy'n seiliedig ar gampws.  Gan ategu'r Campws presennol ym Mharc Singleton ger y traeth, mae Campws newydd y Bae yn gyfleuster wrth ymyl y traeth sy'n agos at Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o bwys Ewropeaidd.  Bydd Campws y Bae yn agor ym mis Medi 2015, ac mae'n cynrychioli buddsoddiad o £450m ar draws dau gam. Mae'n un o'r prosiectau mwyaf sy'n seiliedig ar yr economi wybodaeth yn Ewrop ac yn darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu o fri rhyngwladol, gan gynnwys llety myfyrwyr a ddyluniwyd â gofal mawr i fanyleb uchel.  Mae Prifysgol Abertawe wedi creu cymuned newydd sy'n darparu profiad cyfannol i fyfyrwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd: y nod yw creu awyrgylch dynameg mewn lleoliad o harddwch eithriadol.

Bay Campus May 2015

"Bydd y campws newydd yn darparu gwasanaethau cymorth canolog i fyfyrwyr, llyfrgell y celfyddydau a chanolfan adnoddau o'r radd flaenaf, Undeb y Myfyrwyr, cyfleusterau ac ystafelloedd cyfarfod a Neuadd Fawr drawiadol a fydd yn cynnwys awditoriwm â lle i fwy na 700 o bobl, darlithfeydd a chaffi â golygfeydd godidog o Fae Abertawe tuag at benrhyn Gŵyr a Bae Baglan.

 

"Bydd darpariaeth arlwyo eang ar hyd y campws a fydd yn cynnwys caffis, bariau a bwyty, unedau manwerthu, gan gynnwys archfarchnad fach, golchdy a pheiriannau arian. Yn ogystal â hyn, bydd cyfleusterau chwaraeon hamdden a thraeth i bawb eu mwynhau.

"Gyda'r holl gyfleusterau newydd cyffrous a'r cyfleoedd a fydd ar gael mewn lleoliad godidog, ni allaf feddwl am le gwell i bobl dreulio'r diwrnod gwaith."

Bydd y Brifysgol yn cynnal dau Ddiwrnod Recriwtio Agored â'r nod o ddarparu manylion am y rolau sydd ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb, ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am Gampws a Bae ac am weithio i Brifysgol Abertawe. 

Cynhelir Diwrnodau Recriwtio Agored ar Gampws Parc Singleton y Brifysgol ddydd Sadwrn 23 Mai ac ar 30 Mai gyda sesiynau galw heibio rhwng 10.00am ac 1.00pm.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb gael mwy o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael a sut i wneud cais am y rolau drwy ffonio Meridian Business Support ar 01792 455035 neu e-bostio awilkinson@meridianbs.co.uk