Pobl sy'n gaeth i'r Rhyngrwyd yn fwy agored i salwch yn ôl ymchwil ar y cyd yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gwyddonwyr, gan gynnwys rhai ym Mhrifysgol Abertawe, wedi canfod y gall defnyddio'r rhyngrwyd yn ormodol niweidio'r system imiwnedd.

Yn ôl yr ymchwil gan yr Athro Phil Reed a Rebecca Vile o Brifysgol Abertawe, Dr Lisa A Osborne o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Dr Michela Romano a'r Athro Roberto Truzoli o Brifysgol Milan, mae pobl sy'n fwy caeth i'r rhyngrwyd na'r hyn sy'n gyffredin yn dal annwyd a'r ffliw yn amlach na'r rhai sy'n llai caeth i'r rhyngrwyd.

Bu'r astudiaeth yn gwerthuso 500 o bobl rhwng 18 a 101 oed.  Canfu fod y rhai a nododd eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd yn ormodol hefyd wedi nodi eu bod yn dioddef mwy o symptomau annwyd a ffliw na phobl nad oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd yn ormodol.

Nododd tua 40% o'r sampl eu bod yn profi caethiwed cymedrol neu waeth i'r rhyngrwyd - nid oedd y ffigur yn amrywio rhwng gwrywod a benywod.  Roedd pobl â lefelau uwch o gaethiwed i'r rhyngrwyd yn dioddef tua 30% yn fwy o symptomau annwyd a ffliw na'r rhai nad oedd eu defnydd o'r rhyngrwyd yn gymaint o broblem. 

Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod pobl sy'n treulio mwy o amser ar-lein yn dioddef lefelau uwch o ddiffyg cwsg a bod eu harferion bwyta'n waeth a'u deiet yn llai iach. Maent hefyd yn gwneud llai o ymarfer corff ac yn tueddu i smygu mwy ac yfed mwy o alcohol.  Gall y mathau hyn o ymddygiad niweidio eu systemau imiwnedd a'u gwneud yn fwy agored i afiechydon.

Meddai'r Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe, "Canfu ein hymchwil fod effaith y rhyngrwyd ar iechyd pobl yn annibynnol ar nifer o ffactorau eraill, megis iselder ysbryd, diffyg cwsg ac unigrwydd, sy'n gysylltiedig â lefelau uchel o ddefnyddio'r rhyngrwyd ac iechyd gwael hefyd."

Awgrymodd yr astudiaeth y gall pobl sy'n gaeth i'r rhyngrwyd ddioddef lefelau uwch o straen pan nad oes ganddynt fynediad i'r we, a bod y cylch hwn o straen a rhyddhad sy'n gysylltiedig â chaethiwed i'r rhyngrwyd yn gallu cynyddu lefelau corticosteroidau - hormonau sy'n gallu lleihau effeithiolrwydd y system imiwnedd. 

Ychwanegodd yr Athro Reed, "Mae'n bosib hefyd y bydd systemau imiwnedd pobl sy'n treulio llawer o amser ar-lein ar eu pennau eu hunain yn llai effeithiol o ganlyniad i ddiffyg cysylltiad â phobl eraill a'u germau."

Dywedodd cyfranogwyr yr astudiaeth eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd am chwech awr y dydd ar gyfartaledd, ond roedd lleiafrif sylweddol o'r sampl yn ei ddefnyddio am fwy na 10 awr y dydd - ar wefannau cyfryngau cymdeithasol gan amlaf.  Roedd menywod a dynion yn defnyddio'r rhyngrwyd mewn ffyrdd gwahanol hefyd - gyda menywod yn defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a siopa'n fwy na dynion, a dynion yn dweud eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer gamblo/gemau a phornograffi'n fwy na menywod.

 Meddai'r Athro Roberto Truzoli o Brifysgol Milan, "Ar wahân i'r ffaith eu bod yn cyd-fynd â stereoteipiau rhyw, nid oedd cysylltiad rhwng y canlyniadau ynglŷn â nod pobl wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd a'i effaith ar effeithiolrwydd y system imiwnedd. Does dim gwahaniaeth beth yw'ch nod wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd, os ydych yn ei ddefnyddio'n ormodol, byddwch yn fwy agored i salwch.  Fodd bynnag, gall y mecanweithiau sy'n gyfrifol am eich gwneud yn sâl amrywio, gan ddibynnu ar sut rydych yn defnyddio'r we." 

 Mae'r canfyddiadau'n dilyn astudiaeth ddiweddar arall a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Phrifysgol Milan. Canfu'r astudiaeth hon fod ymddygiad unigolion yr oedd eu defnydd o'r rhyngrwyd yn achosi problemau yn fwy byrbwyll ar ôl iddynt ddefnyddio'r rhyngrwyd.  Yn 2013, canfu Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Milan hefyd y gall pobl ifanc sy'n defnyddio'r rhyngrwyd am gyfnodau hynod hir ddioddef symptomau diddyfnu, yn debyg i'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau.