Personoliaethau di-asgwrn-cefn: Ffisioleg yn dangos ymddygiad mentrus mewn crancod

Mae ymchwil newydd o Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod gwahaniaethau unigol mewn ffisioleg yn gysylltiedig ag ymddygiad cymryd risgiau mewn crancod glas.

Dr Ines Fürtbauer - crab imageArchwiliodd Dr Ines Fürtbauer o Adran y Biowyddorau yng Ngholeg Gwyddoniaeth y Brifysgol, y cysylltiad rhwng ffisioleg ac ymddygiad mewn crancod glas, ac mae ei phapur wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn y Gymdeithas Frenhinol Royal Society Open Science heddiw (dydd Mercher, Mehefin 10).

Cydnabyddir yn eang nad yw personoliaeth yn unigryw i bobl. Mae pysgod, adar, mamaliaid, pryfed ac infertebratau eraill yn arddangos personoliaethau gwahanol  h.y. maent yn amrywio yn gyson o ran eu hymatebion ymddygiadol (e.e. maent yn hyderus neu’n swil).

Mewn fertebratau, mae personoliaethau anifeiliaid yn aml yn cael eu tanategu gan wahaniaethau unigol cyson mewn nodweddion ffisiolegol (“dulliau ymdopi”).  Ni wyddys a yw hyn yn wir i infertebratau. Nod yr ymchwil oedd mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn mewn infertebrat môr, y cranc glas.

Gwnaeth Dr Fürtbauer asesu personoliaethau 53 o grancod drwy olrhain eu hymddygiad mewn amgylchedd newydd.

Hefyd aeth ati dro ar ôl tro i fesur dwysedd haemolymffau’r crancod, mesuriad anuniongyrchol o grynodiadau protein gwaed sy’n arwydd o gyflwr ffisiolegol mewn cramenogion ac roedd cysondeb trawiadol unigol yn y nodwedd hon. 

At hynny, datgelodd yr astudiaeth berthynas rhwng y mesuriad ffisiolegol hwn a’r modd y mae’r crancod yn ymateb i risg, h.y. faint y maent yn cuddio.

Meddai Dr Fürtbauer: “Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod crancod glas, ac o bosib infertebratau eraill, yn dangos dulliau copïo, sy’n cyfateb i’r rhai a geir mewn fertebratau.   

“Mae hyn yn cynnig potensial cyffrous ar gyfer astudiaethau cymharol yn y dyfodol a allai ddatgelu llwybrau esblygu at wahaniaethau ffenotipig.”


Fürtbauer I. 2015 Consistent individual differences in haemolymph density reflect risk propensity in a marine invertebrate. R. Soc. open sci. 2: 140482. http://rsos.royalsocietypublishing.org/content/2/6/140482