Perfformiad rhagorol gan Abertawe yn yr ymarferion graddio prifysgolion diweddaraf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod fel Prifysgol ragorol, gyda'r newyddion ei bod wedi gwella ei safle o 5 lle yn Nhablau Cynghrair Prifysgolion y Guardian ar gyfer 2016. Yn ogystal, dyfarnwyd 5 seren i'r Brifysgol gan QS Stars, system graddio ansawdd a gydnabyddir yn fyd-eang, sy'n golygu bod y sefydliad yng nghwmni prifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd.

Mae Tablau Cynghrair y Guardian, a gyhoeddir heddiw, yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe'n seren ar gynnydd, gyda gwelliant anhygoel o 42 lle mewn 5 mlynedd yn unig, (o 94ain yn 2012 i 52il yn 2016). Yn benodol, mae'r graddau'n cadarnhau hefyd bod Prifysgol Abertawe ymysg yr 20 sefydliad gorau (18fed lle) ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion a chefnogi ein myfyrwyr i wneud yn dda.

Mae'r tablau hefyd yn dangos bod Prifysgol Abertawe ymysg y 10 a'r 20 uchaf yn y DU o ran ansawdd addysgu mewn rhai pynciau:

  • Y 10 uchaf am Beirianneg Ddeunyddiau a Mwynau, Gwaith Cymdeithasol ac Astudiaethau Americanaidd
  • Yr 20 uchaf am Gyfrifiadureg, Meddygaeth, Peirianneg Gemegol, Proffesiynau Iechyd, Polisi a Gweinyddiaeth Cymdeithasol ac Astudiaethau'r Cyfryngau a Ffilm. 

Yn ôl y Guardian University Guide, mae "Prifysgol Abertawe ymysg y ffefrynnau i ennill unrhyw wobr am y campws gorau ... ac mae ar flaen y maes o ran darganfyddiadau academaidd a gwyddonol. Mae'r brifysgol yn datblygu cynlluniau ar gyfer campws gwyddoniaeth ac arloesi newydd a fydd yn cynnwys cyfleusterau addysgu ac ymchwil i'r Coleg Peirianneg, Busnes ac Economeg."

QS 5 Stars logoMae gradd 5 seren newydd Abertawe yn asesiad QS Stars yn cadarnhau safle'r sefydliad ymysg prifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd sydd hefyd wedi cyflawni 5 seren, megis Harvard, Stanford, Yale, Rhydychen a Chaergrawnt. Mae QS Stars yn system graddio ansawdd sy'n caniatáu i fyfyrwyr weld darlun ehangach o rinweddau sefydliad ac mae'n ystyried popeth, o gyflogadwyedd ei raddedigion i gyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau cymunedol.

Yn yr asesiad hwn, dyfarnwyd y radd uchaf, sef 5 seren, i Abertawe ar gyfer Addysgu, Arloesi, Cyfleusterau, Rhyngwladoli a Chynwysoldeb, gyda Chyflogadwyedd ac Ymchwil yn derbyn gradd ardderchog o 4 seren. Ers archwiliad cyntaf QS Stars ym mis Ionawr 2012, mae Abertawe wedi mynd o nerth i nerth, gan wella ei gradd gyffredinol o 4 seren i 5 seren.

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Mae'r gwelliant yn nhabl Cynghrair y Guardian a graddau 5 seren QS Stars yn fesurau adnabyddadwy o'n perfformiad, ein henw da a'r profiad rhagorol rydym yn ei ddarparu i'n myfyrwyr.

"Y gwelliannau hyn yw'r rhai diweddaraf mewn cyfres hir o lwyddiannau a chyflawniadau sy'n adlewyrchu ein momentwm parhaus tuag at gael ein cydnabod fel un o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r DU a'r byd.

"Drwy ychwanegu'r llwyddiannau hyn at ein safle fel un o 30 sefydliad gorau'r DU ar gyfer ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014) ac ymddangos ymysg y 500 o brifysgolion gorau yn y byd (yng ngraddau Prifysgolion y Byd diweddaraf QS), mae'n amlwg bod Abertawe yn bendant ar y trywydd iawn i wireddu ei huchelgais."   

Yn ôl detholiadau o archwiliad categori QS Stars ar gyfer Prifysgol Abertawe:

  • Addysgu - Mae gan Abertawe ganlyniadau rhagorol o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr a boddhad ag addysgu.
  • Ymchwil - Mae allbynnau ymchwil yn uchel iawn a gall Abertawe ymfalchïo bod gan ei chyfadrannau staff o fri rhyngwladol fel rhan o'i chorff academaidd.
  • Cyflogadwyedd - Mae cyflogadwyedd yn elfen allweddol o lwyddiant y Brifysgol, gyda chyfradd gyflogadwyedd ragorol yn cyfrannu at ei pherfformiad cyffredinol ardderchog.
  • Rhyngwladoli - Mae Abertawe wedi defnyddio offer rhyngwladoli ardderchog ac mae wedi llwyddo i ddenu nifer mawr o fyfyrwyr rhyngwladol a staff rhyngwladol yn y cyfadrannau.
  • Cyfleusterau - Mae cyfleusterau'r Brifysgol o safon fyd-eang, mae'r campws yn fodern ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon, canolfan feddygol, darpariaeth Wi-Fi ardderchog, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr a digon o lety. Mae'r rhain i gyd yn helpu i greu amgylchedd astudio o'r radd flaenaf, a helpodd y Brifysgol i gyflawni'r sgôr uchaf yn y categori hwn.
  • Arloesi - Roedd perfformiad y Brifysgol yn hynod dda ym maes Arloesi, gan ennill y sgôr uchaf posib.
  • Cynhwysol - Mae'n amlwg bod y Brifysgol yn ymdrechu i ddenu myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol. Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau ar gael, mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau'n hygyrch i bobl anabl, a cheir cydbwysedd da rhwng y rhywiau.