Pennaeth Bancio yn y DU Santander DU yn ymweld â'r Brifysgol i draddodi darlith gyhoeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd perthynas Prifysgol Abertawe ag un o'i phartneriaid, Santander - drwy Adran Fyd-eang Prifysgolion Santander - ei chryfhau'n ddiweddar drwy ymweliad a darlith gyhoeddus gan Steve Pateman, Cyfarwyddwr Gweithredol a Phennaeth Bancio yn y DU.

Steve Pateman SantanderBu'r ddarlith yn ymdrin â 'Materion a Heriau sy'n wynebu Entrepreneuriaid Uchelgeisiol a Busnes yn y Deyrnas Unedig' a chafodd ei thraddodi yn Narlithfa Wallace ger bron cynulleidfa o fwy na 120 o aelodau staff, myfyrwyr, gwesteion gwadd ac aelodau'r cyhoedd, a estynnodd groeso cynnes i'r ddinas i Mr Pateman.

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Roedd yn bleser mawr gennym groesawu swyddog mor flaenllaw yn Santander UK i'r Brifysgol a chlywed sylwadau Steve Patemen dryw'r ddarlith gyhoeddus hynod fywiog a diddorol hon.

Mae ein cytundeb partneriaeth â Phrifysgolion Santander yn ein galluogi, nid yn unig i ddatblygu cydweithredu rhyngwladol â sefydliadau ledled y byd ymhellach, ond hefyd i gyflwyno amrywiaeth o brofiadau i'n myfyrwyr a wnaiff wahaniaeth mawr i'w bywydau.

"Mae'r bartneriaeth werthfawr hon yn galluogi nifer sylweddol o fyfyrwyr Abertawe i wella eu cyflogadwyedd, magu sgiliau menter a datblygu'n raddedigion gwirioneddol fyd-eang."

Yn y gynulleidfa ar gyfer y ddarlith, roedd Debra Williams, un o'r menywod mwyaf blaenllaw yng nghymuned busnes y DU, a fu'n  Gyfarwyddwr Rheoli Confused.com a Tesco Compare.

Steve Pateman Santander 2Meddai Ms Williams, "Roeddwn i'n gweithio yn Niwydiant y Gwasanaethau Ariannol yn ystod yr argyfwng bancio yn 2008. Doedd y DU ddim wedi gweld 12 mis tebyg ers 1929. Aeth Lehman Brothers i'r wal, daeth HBOS, Royal Bank of Scotland a llawer mwy o fewn trwch blewyn i drafferth ddifrifol ac roedd angen help y Llywodraeth arnyn nhw.

"Er bod pawb wedi byw drwy'r cyfnod hwn, Steve Pateman, Cyfarwyddwr Gweithredol a Phennaeth Bancio yn y DU i Santander, oedd yr un cyntaf i esbonio, yn ei ddarlith, ddilyniant y digwyddiadau a'r canlyniadau o ran hylifedd a darpariaethau cyfalaf fel yr oedd yn hawdd deall yr hyn a greodd y sefyllfa.

"Mae darlithoedd o'r fath, wedi'u trefnu gan Brifysgol Abertawe, sy'n agored i'r cyhoedd, yn ffordd wych o roi cyfle i fwy o bobl glywed siaradwyr proffil uchel yn mynd i'r afael â phynciau o ddiddordeb.

"Mae gan Santander a Phrifysgol Abertawe berthynas gref sy'n cydweithio â busnesau lleol i gynnig lleoliadau i raddedigion. Mae gen i brofiad personol o'r fenter hon ac rwy'n argymell yn gryf bod cwmnïau lleol yn manteisio arni i gyflwyno meddylwyr ifanc arloesol i'w busnesau.

"I ddyfynnu Benjamin Franklin, "Buddsoddi mewn gwybodaeth sy'n talu'r llog gorau".

Ymunodd Mr Pateman â Santander ym mis Mehefin 2008 a chafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Gweithredol ym mis Mehefin 2011.  Dechreuodd Mr Pateman gyflawni rôl Cyfarwyddwr Gweithredol a Phennaeth Bancio yn y DU ym mis Mawrth 2012 a bellach mae'n gyfrifol am fancio manwerthu, corfforaethol, masnachol a busnes, gan ymgorffori holl sianelau Santander yn y DU yn ei gylch gorchwyl.

Bu Mr Pateman yn gweithio i NatWest o'r blaen, ac i RBS lle bu'n Brif Swyddog Gweithredol Bancio Busnes, yn Gyfarwyddwr Rheoli Bancio Masnachol ac yn Gyfarwyddwr Rheoli Bancio Corfforaethol.  Bu hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ariannu, ailstrwythuro, marchnad gyfalaf a dyraniadau ecwiti yn ystod ei gyfnod yn NatWest Markets lle bu'n arbenigo yn y sectorau hamdden a manwerthu.

Yn 2014, cyhoeddodd Prifysgol Abertawe gytundeb partneriaeth â Santander, drwy Adran Fyd-eang Prifysgolion Santander.

Mae Prifysgol Abertawe yn rhan o rwydwaith Prifysgolion Santander, grŵp rhyngwladol o brifysgolion sy'n rhannu tri nod: rhyngwladoli, trosglwyddo gwybodaeth a meithrin sgiliau entrepreneuriaeth.

Mae'r bartneriaeth, a sefydlwyd yn 2014, yn galluogi'r Brifysgol i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau cydweithredu rhyngwladol, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i staff a myfyrwyr.

Mae'r cytundeb yn cynnwys pedair ysgoloriaeth i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe a 15 bwrsariaeth deithio i staff a myfyrwyr Abertawe ymweld â phrifysgolion rhyngwladol sydd hefyd yn rhan o'r rhwydwaith. Ceir cronfa cymorth entrepreneuraidd hefyd sy'n cefnogi hyd at 20 o fusnesau myfyrwyr newydd a chynllun interniaeth sy'n gosod myfyrwyr gyda chwmnïau bach a chanolig lleol, gan roi cyfle iddynt gael profiad gwaith gwerthfawr.