Myfyrwraig Nyrsio o Abertawe, Kirsty, yn ennill y gystadleuaeth “Helo fy enw i yw …”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewiswyd Kirsty Jones, myfyrwraig nyrsio yn ei thrydedd flwyddyn yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe yn un o bedwar o enillwyr cystadleuaeth sydd wedi’i hanelu at wella gofal a chyfathrebu ar gyfer cleifion yng Nghymru.

Kirsty JonesCymerodd Kirsty, 29 oed, o Pwll, Sir Gaerfyrddin, sy’n astudio ar y cwrs gradd BN Nyrsio (Oedolion), ran yn y gystadleuaeth “Helo, fy enw i yw…” yn ystod yr haf yn 2014, gan gyflwyno traethawd myfyriol am ei chefnogaeth at yr ymgyrch “Helo fy enw i yw…”.

Trefnwyd y gystadleuaeth Cymru gyfan gan 1000 Lives Plus, sef rhaglen wella genedlaethol sy’n cefnogi darparu gofal iechyd o’r safon uchaf a’r diogelwch mwyaf i bobl yng Nghymru.

Nod y gystadleuaeth oedd adeiladu ar waith Dr Kate Granger, meddyg a chlaf canser terfynol wael, sy’n annog gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd i ymuno â’i hymgyrch i ddechrau cyfathrebu â’u cleifion trwy ddefnyddio’r cyflwyniad syml “Helo, fy enw i yw…”.    

Fel myfyrwraig nyrsio, esboniodd Kirsty sut y mae cyflwyniad syml yn bwysig nid yn unig wrth gyfathrebu â chleifion ond hefyd o fewn tîm amlddisgyblaeth.

Llwyddodd Kirsty i ddwyn perswâd ar ei chydweithwyr i ddefnyddio’r datganiad agoriadol hwn, gan gydnabod pwysigrwydd safbwynt y claf a’i rôl o fewn ei ofal ei hun.

Meddai Kirsty: "Mae’r pethau fy mod wedi’u dysgu trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth wedi magu fy hyder i wella fy sgiliau cyfathrebu a’m pendantrwydd.

“Rwy nawr yn teimlo fy mod yn gallu cyflwyno fy hun yn effeithiol a defnyddio ciwiau i annog cyflwyniadau rhwng gweithwyr gofal iechyd eraill a’r claf a’i deulu."

Darllenwch gais buddugol Kirsty ar safle 1000 Lives Plus yma.

Bydd Kirsty a’i chyd-enillwyr yn ymuno â miloedd o weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn y Fforwm Rhyngwladol ar Safonau a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn Llundain ym mis Ebrill 2015.