Mae hollt sy'n tyfu'n gyflym yn bygwth un o ysgafellau iâ mwyaf Antarctica

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm o ymchwilwyr, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, wedi tynnu sylw at hollt mawr yn Ysgafell Iâ Larsen C yn Antarctica a fydd, ymhen amser, yn lleihau ei harwynebedd yn sylweddol gan effeithio ar ei sefydlogrwydd o bosib.

Ar ôl i ysgafellau iâ Larsen A a Larsen B ar benrhyn Antarctica chwalu ym 1995 a 2002, mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio eu cymydog llawer mwy sylweddol, Ysgafell Iâ Larsen C, yn ofalus am arwyddion o newid. Mewn ymchwil newydd a gyflwynwyd i'r cyfnodolyn The Cryosphere, mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi tynnu sylw at hollt mawr sy'n tyfu'n gyflym ac yn bygwth sefydlogrwydd yr ysgafell iâ gyfan.

Ariennir prosiect MIDAS gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ac mae'n cynnwys ymchwilwyr o Sefydliad Alfred Wegener yn yr Almaen, Prifysgol Aberystwyth a'r Arolwg Antarctica Prydeinig. Bu'n defnyddio data o loeren NASA i ganfod bod cyfradd gynyddu hollt mawr wedi cyflymu yn ystod 2014. Pan fydd yr iâ yn ymrannu'n llwyr, bydd yr ysgafell iâ, y mae ei harwynebedd ddwywaith a hanner gymaint ag arwynebedd Cymru, yn cael ei lleihau o leiaf 10% i gyrraedd lleiafswm newydd. Ac yn bwysicach na dim, mae'r tîm wedi dangos, drwy fodelu cyfrifiadurol, y gallai'r ffurfwedd newydd fod yn ansefydlog ac mewn perygl chwalu ymhellach.

Mae ysgafellau iâ yn estyniadau parhaol llen iâ, cannoedd o fetrau o drwch, sy'n arnofio ar y cefnfor ar ymylon Antarctica. Ysgafell Iâ Larsen C yw'r bedwaredd fwyaf o'i math yn y byd.

Ni theimlir effaith ysgafell iâ'n chwalu ar unwaith oherwydd bod yr iâ eisoes yn arnofio. Fodd bynnag, os caiff rhan sylweddol o Ysgafell Iâ Larsen C ei cholli, bydd yr iâ sy'n gorchuddio mynyddoedd Penrhyn Antarctica ac sy'n cael ei ddal yn ôl gan yr ysgafell iâ ar hyn o bryd, yn gallu cyfrannu'n llawer gynt yn y pen draw at gynnydd yn lefel y môr.

Ni ellir priodoli datblygiad yr hollt hwn yn uniongyrchol i newid yn yr hinsawdd ac mae'n bosib ei fod yn rhan o gylch naturiol o dyfu ac ymrannu. Serch hynny, dyma'r dystiolaeth ddiweddaraf mewn cyfres barhaus o erydu'r ysgafelloedd iâ yn y rhanbarth. Mae Penrhyn Antarctica ymysg y mannau sy'n cynhesu gyflymaf yn y byd ac mae'r ysgafellau iâ mewn perygl cynyddol o doddi oherwydd effaith yr atmosffer uwchben a'r cefnfor oddi tanynt.

Dywedodd yr Athro Adrian Luckman o Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe, arweinydd y prosiect:

"Does dim modd rhagweld pan fydd yr iâ'n ymrannu ond, pan fydd hyn yn digwydd bydd yn fwy nag unrhyw ddigwyddiad o'i fath ers y 1980au. Gwelwyd ymrannu tebyg cyn i Ysgafell Iâ Larsen B chwalu yn 2002."

 Meddai Dr Daniela Jansen o Ganolfan Ymchwil Begynol a Morol Helmholtz yn Sefydliad Alfred Wegener a phrif awdur y papur:

"Nid yw hollti ac ymrannu ar y raddfa hon yn anarferol. Yr hyn sy'n bwysig yw bod ein model yn dangos y bydd yr iâ sy'n weddill, hyd yn oed ar ôl ymrannu ar y raddfa leiaf a ragwelir, yn llai sefydlog o lawer nag ar hyn o bryd.