Hwb gwerth £3.9m gyda chymorth yr UE i arwain llwyddiant busnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd menter newydd gwerth £3.9m gyda chymorth yr UE i helpu perchnogion a rheolwyr busnes i ennill sgiliau arwain a rheoli wedi cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener 11 Rhagfyr) gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.

Jane Hutt - Dec 2015Mae’r prosiect ION Leadership, dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yn cael £2.7m o gymorth drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gynyddu sgiliau ac ysgogi cynhyrchiant a throsiant mewn mentrau bach a chanolig, yn ogystal â sefydliadau mwy.

Nod y rhaglen yw datblygu gyrfaoedd a gwella perfformiad cannoedd o fusnesau yn y Gogledd, y Gorllewin a Chymoedd y De – gan arwain at gynnydd mewn proffidioldeb a thwf.

Bydd y fenter tair blynedd yn helpu dros 590 o entrepreneuriaid ac arweinwyr arfaethedig i ddatblygu sgiliau lefel uchel drwy raglen arweinyddiaeth wedi’i thargedu i gynyddu’r gallu i gynhyrchu yn y gweithle a datblygu mentrau cynaliadwy, proffidiol.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt: “Bydd arfogi arweinwyr a pherchnogion busnes â sgiliau o safon uchel yn arwain at fwy o allu i gynhyrchu, ac yn gwella perfformiad o fewn mentrau preifat er mwyn iddynt fod yn fwy cystadleuol ac ennill contractau newydd gan arwain at lwyddiant masnachol.”

Mae prosiect ION Leadership yn rhaglen o ddysgu ymarferol mewn grŵp o gymheiriaid. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn medru arbrofi gyda gwahanol ddulliau o arwain ac yn dysgu sut i ymgorffori arferion gwaith llwyddiannus yn eu busnesau eu hunain.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar lwyddiant prosiect LEAD Cymru, dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, a helpodd dros 900 o bobl i ennill sgiliau a chymwysterau rhwng 2009 a 2015.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: “Bydd prosiect ION Leadership yn mynd â’r cysylltiad rhwng Prifysgolion Abertawe a Bangor a busnesau bach a chanolig i lefel newydd sbon. Bydd y Brifysgol yn helpu perchnogion a rheolwyr busnesau bach a chanolig gan ddefnyddio dulliau cadarn a llwyddiannus ar gyfer hybu twf busnesau. 

“Mae’r prosiect yn cydnabod bod rhaid i fusnesau bach a chanolig gael arweiniad ac uchelgais ymysg rheolwyr i dyfu eu busnesau er mwyn gwella’r economi. Rydyn ni’n manteisio’n frwd ar y cyfle hwn i roi hwb sylweddol a chynaliadwy i economi Cymru.”

Ychwanegodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o gydweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar y prosiect ION Leadership newydd, sy’n gyfle gwych i fusnesau Cymru fuddsoddi yn eu twf.

“Mae economi Cymru’n dibynnu ar dwf busnesau bach a chanolig. Rydyn ni fel Prifysgol wedi gweld y manteision a ddaeth i fusnesau drwy fuddsoddi yn eu sgiliau arwain a rheoli, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu helpu i wynebu’r her.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.