Gwaith Hywel Dafi: cyhoeddi gwaith un o feirdd pwysicaf y pymthegfed ganrif

Y mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth newydd gyhoeddi Gwaith Hywel Dafi fel rhan o’u cyfres Beirdd yr Uchelwyr. Golygwyd y gwaith gan Dr A Cynfael Lake sy’n ddarllenydd yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn 2012, cafodd Dr Lake Gymrodoriaeth glodfawr o’r Academi Brydeinig gwerth £89,000  er mwyn ymgymryd â’r dasg o olygu’r canu.

Dr A Cynfael Lake Hywel Dafi yw’r bardd pwysicaf o’r bymthegfed ganrif, ‘Oes Aur’ yn hanes llenyddiaeth y Gymraeg, nad oedd ei ganu wedi ei olygu a’i gyhoeddi. Y mae’r cyhoeddiad newydd hwn, felly, yn llenwi bwlch amlwg ac yn rhoi sylw i fardd o bwys na chafodd ryw lawer o sylw hyd yn hyn.

Bardd o sir Frycheiniog oedd Hywel Dafi, ac yr oedd yn canu rhwng tua 1440 a 1485. Ar un adeg yn ei fywyd yr oedd yn byw yn Aberhonddu, naill ai yn y fwrdeistref neu yn y cyffiniau. Y mae rhyw gant o’i gerddi wedi eu diogelu ac wedi eu golygu yn Gwaith Hywel Dafi. Cerddi mawl a marwnad i foneddigion sir Frycheiniog yw’r rhan fwyaf, ac yn arwyddocaol, yr oedd y bardd yn perthyn i nifer ohonynt. Ei noddwr pwysicaf oedd Wiliam Herbert o Raglan, gŵr a oedd ar ddeheulaw’r Brenin Edward IV. A barnu wrth dystiolaeth y cerddi a ddiogelwyd, fodd bynnag, aelodau o deulu Tretŵr oedd prif noddwyr Hywel Dafi. Llysfrawd Wiliam Herbert, sef Rhoser Fychan a’i fab Tomas Fychan, a drigai yn y cartref hwnnw. Diogelwyd canran da o’r cerddi gan y bardd yn ei law ei hun yn llawysgrif Peniarth 67. O blith holl feirdd y bymthegfed ganrif, Lewys Glyn Cothi yn unig a gofnododd fwy o’i gerddi ei hun.

Mae Dr Lake (yn y llun) yn arbenigwr ar waith Huw Jones o Langwm, un o awduron baledi ac anterliwtiau mwyaf adnabyddus y ddeunawfed ganrif, ac wedi golygu canu sawl bardd arall o’r Oesoedd Canol, ac y mae’r rhain, fel Gwaith Hywel Dafi, wedi eu cyhoeddi yn yr un gyfres.

Wrth drafod gwaith Hywel Dafi, dywedodd yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Mae’r golygiad hwn yn ffrwyth ymchwil fanwl o’r safon uchaf ac yn gyfraniad gwerthfawr iawn i gyfres Beirdd yr Uchelwyr.”


Dysgwch fwy am Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.