Disgyblion yn gweithio gydag archifwyr i ddatgelu hanes Ystâd Sandfields ym Mhort Talbot

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Sandfields ym Mhort Talbot wedi bod yn cydweithio gydag archifwyr, haneswyr ac arbenigwyr eraill i greu arddangosfa am hanes Ystad Sandfields, a adeladwyd yn y 1950au ar gyfer gweithwyr dur a’u teuluoedd.

Caiff arddangosfa o’u gwaith ei lansio ym Mhort Talbot ar ddydd Sadwrn, 14 Mawrth.

Gweithiodd y disgyblion Blwyddyn 9 gyda thîm o arbenigwyr, gan gynnwys archifwyr o Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, Archifau Gorllewin Morgannwg, academyddion o Adran Hanes y Brifysgol, staff yr amgueddfa ac athrawon.

Defnyddiodd y disgyblion luniau, ffilmiau, mapiau a chopïau o ddogfennau o’r archifau. Cyfwelodd rhai â’u pherthnasau am eu hatgofion o Sandfields.

Sandfields Estate steel exhibition - artwork

Llun: Enghraifft o waith celf o’r Sandfields gan Brandon Webb, disgybl Blwyddyn 9.

Cynorthwyodd yr archifywr Kim Collis a Katrina Legg y plant gyda’u gwaith, gyda chefnogaeth ychwanegol gan staff Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Cawsant gyfle hefyd i gydweithio â Bleddyn Penny, hanesydd o Brifysgol Abertawe sy’n arbenigo yn hanes gwaith dur Port Talbot, a greoedd cyfres o recordiau o weithwyr dur a oedd wedi ymddeol yn siarad am eu bywydau.  

Canlyniad gwaith y disgyblion oedd cyfres o faneri printiedig, sy'n cynnwys eu gwaith celf a thrawsgrifiadau o'u cyfweliadau, ynghyd â ffotograffau, mapiau ac adnoddau eraill o'r archifau.

Bydd y baneri yn cael eu lansio’n gyhoeddus fel rhan o'r digwyddiad cymunedol a gynhelir yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Sandfields, Seaway Parade, Port Talbot, ddydd Sadwrn 14 Mawrth, 2015.

Lansiad yr arddangosfa: Dydd Sadwrn, 14 Mawrth 2015. 10am - 1pm.

Canolfan Addysg  Gymunedol Sandfields, Seaway Parade, Port Talbot, SA12 7BL.

Mae’r digwyddiad yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim.

Sandfields Estate steel exhibition

Llun: Ystâd Sandfields yn y 1960au.

‌Bydd y lansiad hefyd yn cynnwys:

  • sgyrsiau am hanes y gwaith dur ym Mhort Talbot gan Dr Louise Miskell a Bleddyn Parry, y ddau o Adran Hanes a'r Clasuron, Prifysgol Abertawe.
  • arddangosfa o ddogfennau a lluniau o hanes Sandfields.

Bydd y baneri yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa fwy yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o Ebrill – Mehefin 2015.

Meddai Dr Katrina Legg o Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae archifau i bawb, a dyna pam roeddem mor falch i weithio gyda’r disgyblion a’n partneriaid ar y prosiect arbennig hwn.”

Sandfields Estate steel exhibition - pupils

Llun: Rhai o’r disgyblion yn gweithio gyda Bleddyn Parry. 

Meddai Kim Collis o Archifau Gorllewin Morgannwg: “Mae’r arddangosfa yn bwrw goleuni ar hanes diddorol Sandfields, cymuned â adeiladwyd ar ddur. Mae’r prosiect wedi bod o fudd mawr i’r disgyblion aethant i amgueddfa leol, nifer ohonynt am y tro cyntaf, a chawsant gyfle i weld archifau nad oeddent yn gwybod eu bod yn bodoli.

“Bydd gweld gwaith y plant yn cael ei arddangos yn yr ysgol, y gymuned leol a’r Amgueddfa Genedlaethol yn rhoi cryn balchder i’r plant, eu ffrindiau a’u teulu, a phawb yn ardal Sandfields.”

Am y prosiect:

Ariennir y prosiect drwy gynllun Newid Pethe Llywodraeth Cymru, a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC). Mae eu partneriaid yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg – Kim Collis (Archifydd)
  • Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe  – Elisabeth Bennett (Archifydd y Brifysgol) a Katrina Legg (Cynorthwyydd Archifau)
  • Adran Hanes a Chlasuron, Prifysgol Abertawe  - Dr Louise Miskell (Athro Cysylltiol) and Bleddyn Penny (myfyriwr PhD)
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru – Leisa Bryant ac Andrew Deathe
  • Ysgol Uwchradd Sandfields – Darren Grounds (Daearyddiaeth), Erica Gent ac Adam John (Celf) ‌