Dirprwy Ganghellor a dau o academyddion Prifysgol Abertawe yn cael eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Gwir Anrh. Syr Roderick Evans, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe; cyn Farnwr Uchel Lys, Y Llysoedd Barn Brenhinol, yr Athro Siwan Davies, Athro Daearyddiaeth Ffisegol, a ‘r Athro Rory Wilson, Athro Bioleg Forol o Brifysgol Abertawe wedi cael eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Sir Roderick EvansMae canlyniadau cylch Etholiad 2015 y Gymdeithas, gyda Chymrodyr newydd sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, gwyddoniaeth a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r etholiad hwn wedi cryfhau’r Gymdeithas yn sylweddol, gan ychwanegu deugain o Gymrodyr newydd yn aelodau. Fel y Cymrodyr Cychwynnol a’r Cymrodyr a etholwyd mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r rheini sydd wedi’u hethol eleni’n cynrychioli amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.

Llun: Gwir Anrh. Syr Roderick Evans

Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadleuaeth frwd i ymuno â Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymdeithas yn harneisio arbenigrwydd y Gymrodoriaeth i hybu ymwybyddiaeth o’r modd y mae’r gwyddorau a’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn dod â budd i gymdeithas. Gall y Cymrodyr gynorthwyo gwaith y Gymdeithas drwy wasanaethu ar ei hamrywiol bwyllgorau a gweithgorau a thrwy ein cynrychioli ni’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Siwan DaviesMae’r Athro Siwan Davies (chwith) yn nodedig nid yn unig am ei llwyddiant unigol, ond hefyd am ei bod yn ffigwr sy’n ysbrydoli menywod sy’n awyddus i ragori yn eu dewis faes.

Etholiad 2015 yw’r pumed mewn proses dreigl o adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd ffocws parhaus y Gymrodoriaeth ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r gorau o blith y prif ddisgyblaethau academaidd.

‌Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar deilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru a thramor.

Professor Rory Wilson of Swansea University "Mae’n galonogol hefyd mai’r gyfran o Gymrodyr benywaidd sydd wedi’u hethol eleni (35%) yw’r uchaf yn hanes y Gymdeithas. Mae nifer cynyddol o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaeth, ac yn ddigon priodol caiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer a gaiff eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas.”

 

Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010 fel elusen addysgol annibynnol, Gymru gyfan, ddwyieithog, hunanlywodraethol, traws ddisgyblaethol, i sicrhau budd i’r cyhoedd gan gynnwys cydnabod rhagoriaeth ysgolheigaidd, hyrwyddo ymchwil a darparu cyngor arbenigol, annibynnol ac ysgolheigaidd ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus. Yn wahanol i gymdeithasau dysgedig tebyg yng ngweddill y DU, mae ein Cymrodoriaeth ni’n cynnwys pobl o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau - gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a gwasanaeth cyhoeddus.