Clirio’r awyr: Astudiaeth yn edrych ar wrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt mewn

Mae papur newydd a gyhoeddwyd gan academyddion o Brifysgol Abertawe’n dangos bod gwrthdrawiadau rhwng anifeiliaid hedegog ac adeiladau, llinellau pŵer, ffermydd gwynt ac awyrennau ar gynnydd.

Mae’r awduron yn awgrymu bod angen i’r gofod awyr, sy’n dod yn fwyfwy gorlawn, gael ei reoli’n well er mwyn cynorthwyo gyda gwarchod anifeiliaid a lleihau’r gost ariannol yn ogystal â’r gost ddynol sy’n gysylltiedig â gwrthdrawiadau.

Mae’r papur gan yr Athro Rory Wilson a Dr Emily Shepard o Adran y Biowyddorau  ar y cyd â Sergio Lambertucci o Brifysgol Genedlaethol Comahue, yr Ariannin, wedi cael ei gyhoeddi yn Science. Mae’r astudiaeth yn dangos wrth i bobl ddefnyddio gofod awyr yn fwyfwy ar gyfer cludiant, cynhyrchu ynni a gwyliadwriaeth, mae gwrthdaro ag anifeiliaid yn yr awyr wedi cynyddu. Fodd bynnag mae’r rhyngweithiadau awyr hyn yn aml yn dal i gael eu hesgeuluso wrth ystyried canlyniadau ecolegol gweithgareddau pobl. 

Human-bird activityGofod awyr gorlawn – yr effeithiau

Yn ôl yr astudiaeth, mae gwrthdaro fel arfer yn digwydd o fewn y 100 metr cyntaf o’r llawr, lle mae’r rhan fwyaf o anifeiliaid hedegog yn hedfan a lle ceir mwy o weithgarwch dynol. Hefyd dyma le mae’r rhan fwyaf o wrthdrawiadau rhwng adar ac awyrennau yn digwydd, sydd wedi arwain at farwolaeth dros ddau gant o bobl, miloedd o awyrennau’n cael eu difrodi, ac sy’n costio dros $900 miliwn y flwyddyn yn UDA yn unig.

 

Mae effeithiau eraill sy’n gysylltiedig â gofod awyr gorlawn yn cynnwys:

  • tarfu ar lifoedd awyr sy’n effeithio ar ddosbarthiad a chynefinoedd adar 
  • tarfu ar ficro-organebau yn yr awyr megis bacteria  ac algâu sy’n effeithio ar gemeg cymylau a’r hinsawdd 

Mae dronau hefyd yn gallu effeithio ar ymddygiad rhai rhywogaethau o adar pan fyddant yn hedfan yn agos i nythod a gallent arwain at ymatebion ffisiolegol megis straen. Ond mae hwn yn faes newydd ac un astudiaeth yn unig sydd wedi archwilio ymatebion adar i ddronau.

Bird-human activity Rheoli gofod awyr yn effeithiol

Mae’r effeithiau ecolegol negyddol hyn wedi annog y tîm ymchwil i alw am ddull rheoli amgylcheddol mwy effeithiol ar gyfer gofod awyr ar lefel genedlaethol a rhanbarthol ac am ddealltwriaeth fanylach o’r modd y mae anifeiliaid yn symud yn yr awyr.

Meddai’r Athro Wilson: “Mae’n ddiddorol nodi bod mwy o ddealltwriaeth o lwybrau anifeiliaid sy’n ymfudo ac sy’n croesi cyfandiroedd nag o’r llwybrau a ddilynir gan anifeiliaid mewn parciau neu drefi. Ond bellach mae angen data manwl ar y ffordd y mae anifeiliaid yn defnyddio gofod awyr er mwyn helpu wrth lywio penderfyniadau cynllunio lleol, cynlluniau adeiladau a’r camau sy’n amddiffyn ein bywyd gwyllt.”

Mae’r tîm ymchwil hefyd yn dweud bod dadleuon cryf dros sefydlu gwarchodfeydd gofod awyr mewn ardaloedd bywyd gwyllt awyr ac y gellid cyflwyno gwarchodfeydd dros dro i amddiffyn adar pan fyddant yn ymfudo wrth i rai parhaol gael eu defnyddio i amddiffyn symudiadau anifeiliaid o ddydd i ddydd.

Meddai Dr Shepard: “Un o’r prif heriau yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r ffyrdd niferus yr ydym yn newid y gofod awyr. Dylai werthfawrogi hyn, a’r camau y gallwn eu cymryd i leihau’n heffeithiau, fod yn rhan annatod o’r penderfyniadau cynllunio ar raddfa leol a rhanbarthol, fel sy’n wir ar gyfer mathau eraill o gynefinoedd”. Ar y cyfan, mae’r awduron yn awgrymu y dylai’r blaenoriaethau gynnwys adnabod ardaloedd delfrydol lle gellid sefydlu gwarchodfeydd awyr, yn ogystal ag ardaloedd lle ceir llawer o wrthdaro rhwng pobl ac anifeiliaid lle mae angen dulliau mwy amddiffynnol.