Cipolwg i drigolion lleol ar Gampws newydd y Bae y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddar gwahoddwyd trigolion lleol sy'n byw ger Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd y Bae gwerth £450 miliwn Prifysgol Abertawe i ymweld â'r datblygiad i weld y cyfleusterau newydd sydd ar garreg eu drws.

Bay Campus - residents visitCymerodd mwy na 40 o drigolion lleol y cyfle i gael cipolwg ar Gampws y Bae, a fydd yn agor yn ffurfiol ddydd Llun, 21 Medi, gan gynnwys teithiau o'r tu mewn i'r Ardal Beirianneg drawiadol, Llyfrgell y Bae a'r Neuadd Fawr.

Mae'r porth i Abertawe drwy Ffordd Fabian wedi newid yn fawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf gydag adeiladu Campws y Bae y Brifysgol, a adeiladwyd ar amser ac o fewn y gyllideb mewn partneriaeth ag arbenigwr adfywio blaenllaw'r DU, St. Modwen.

Meddai'r trigolyn lleol a'r ffotograffydd brwd, Paul Harris, "Am fy mod yn byw gyferbyn â'r safle adeiladu, rwyf wedi gwylio'r gwaith yn datblygu o ludw fferm danciau BP i'r adeiladau trawiadol hyn, gan gynnwys y Neuadd Fawr, sef yr olygfa o ffenestr fy ystafell wely.

"Am weddnewidiad – mae'r cyfleusterau a gynigir i breswylwyr Twyni Crymlyn yn eithriadol, gan gynnwys caffis, bwytai, barrau a banc, oll ar garreg ein drws. Ni allaf aros iddo agor."

Yn dilyn y daith a lluniaeth ysgafn, cafodd y trigolion hefyd gyfle i gwrdd â rhai o gontractwyr Campws y Bae, yn ogystal â staff Prifysgol Abertawe a swyddogion Undeb y Myfyrwyr.

Siaradont am yr hyn sydd wedi'i gynllunio wrth i Gampws y Bae baratoi i groesawu'i fyfyrwyr cyntaf ac agor yn ffurfiol fis nesaf, ac am ddyhead y Brifysgol i greu Panel Cymunedol gyda thrigolion lleol.

Campws y Bae – Diwrnod Agored

Ddydd Sadwrn, 10 Hydref cynhelir Diwrnod Agored Israddedig y Brifysgol, a bydd Campws y Bae yn agor ei ddrysau i'r gymuned leol, busnesau lleol, teulu a ffrindiau staff a myfyrwyr, a'r cyhoedd – bydd y Brifysgol yn estyn gwahoddiad a chroeso cynnes iddynt oll ymweld.

Yn ystod y Diwrnod Agored, rhwng 12pm a 4pm, bydd teithiau wedi'u trefnu, cyflwyniadau ac arddangosiadau rhyngweithiol difyr. I gofrestru'ch diddordeb, ewch i wefan Datblygu'r Campws neu e-bostiwch campusdevelopment@abertawe.ac.uk.


Llun: Mae rhai o'r ymwelwyr yn y llun yn yr Ardal Beirianneg gyda staff Prifysgol Abertawe yn ystod y daith o'r Campws.