Canlyniad llwyddiannus i raglen beilot paratoi i ddenu buddsoddwyr Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhaglen beilot sy'n trawsnewid syniadau a dyfeisiadau academaidd yn fusnesau â chefnogaeth cyfalaf menter wedi cyflawni cyfres o ganlyniadau llwyddiannus dros ben.

InvestorG8 pic 1

Cafodd InvestorG8, a oedd yn rhaglen beilot 12 mis i ddechrau a ariannwyd gan raglen A4B Llywodraeth Cymru, ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe flwyddyn yn ôl. Hon yw'r rhaglen gyntaf o'i math yn y DU i roi cymorth dwys i syniadau academaidd yn eu dyddiau datblygu cynnar er mwyn eu paratoi ar gyfer buddsoddiad ac mae'n braenaru'r tir am ymagwedd newydd at fasnacheiddio syniadau academaidd.

 

Dyfeisiwyd y cysyniad hwn gan Dr Gerry Ronan, Pennaeth Masnacheiddio Eiddo Deallusol ym Mhrifysgol Abertawe, a fu'n arwain y rhaglen gyda chymorth arbenigwr trosglwyddo technoleg a chyn-fuddsoddwr cyfalaf menter, Dr Mark Bowman.

Meddai Dr Ronan, "Mae trosglwyddo gwybodaeth yn rhan bwysig o weithgareddau sawl prifysgol, ac mae'n hollbwysig wrth ddatblygu meysydd megis y gwyddorau bywyd a pheirianneg. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi mynd â phethau gam ymhellach drwy fanteisio ar arbenigedd ariannol, cyfreithiol a masnachol yn ystod cam ffurfiannol y cysyniadau gwyddonol pwysig hyn, gan helpu i'w troi'n fusnesau a fydd yn denu buddsoddiad."

Meddai Dr Bowman, "Mae llwyth o syniadau'n byrlymu y tu mewn i labordai a mannau ymchwil Prifysgol Abertawe; mae gennym wyddonwyr o safon fyd-eang yma sy'n darganfod atebion newydd i broblemau meddygol, biolegol ac amgylcheddol drwy'r amser. Ond, yn hanesyddol, bu'n anodd i brifysgolion roi arloesedd academaidd ar waith drwy fasnacheiddio. Mae InvestorG8 wedi profi, drwy fuddsoddi pecynnau o wybodaeth arbenigol yn y syniadau hyn o'r cychwyn cyntaf, y gellir eu troi'n gyflym yn fusnesau sy'n barod i fuddsoddi ynddynt a fydd yn darparu manteision i bobl ymhob man."

Meddai Dr Ronan, "Mae wedi bod yn brosiect cynhwysol iawn wrth i ni  bontio'r bwlch rhwng prosiectau ymchwil sydd â photensial profedig a chyfleodd sy'n barod i ddenu buddsoddiad. Rhan allweddol o hyn oedd yr asesu a'r adborth parhaus a ddarparwyd gan banel o fuddsoddwyr cyfalaf menter InvestorG8 a oedd yn cynnwys Cyllid Cymru, y Grŵp Eiddo Deallusol, y rhwydwaith angylion busnes Cymreig, xénos, Arthurian Life Sciences a Mercia Fund Management.

Ychwanegodd Dr Bowman, "Yn fy mrhofiad i, mae cael mewnbwn gan ddarpar fuddsoddwyr mor gynnar yn y broses trosglwyddo technoleg - fel sydd wedi digwydd gyda phrosiect InvestorG8 - yn anarferol iawn ond mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Dros y deng mis diwethaf, rydym wedi gweld effaith cyngor arbenigol y buddsoddwyr ynghylch realiti masnachol ar adeg pan oedd modd addasu prosiectau o hyd. Mantais arall yw'r faith bod gennym gynigion o fuddsoddiad sylweddol eisoes ar gyfer y cwmnïau deillio sy'n cymryd rhan.

Wrth i sylw Cymru barhau i ganolbwyntio ar gynnydd busnesau sy'n seiliedig ar y gwyddorau bywyd a thechnoleg, mae Adran Ymchwil ac Arloesi Abertawe'n credu y bydd buddsoddi'n gynnar mewn syniadau academaidd yn creu cyfleoedd gwell a mwy cynaliadwy.

InvestorG8 pic 2

Meddai Dr Ronan, "Mae InvestorG8 wedi bod yn llwyddiant ysgubol*, gan sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y syniadau gwych sy'n cael eu creu yma yn Abertawe. Rydym yn disgwyl y bydd y £450,000 a fuddsoddwyd yn y fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn troi'n enillion ddengwaith y swm gwreiddiol. Ac rydym yn hyderus y bydd prifysgolion eraill y DU yn gweld InvestorG8 fel model i seilio eu datblygiadau academaidd a masnachol hwy arno."

 

Llun 1: Dr. Mark Bowman and Dr. Gerry Ronan

Llun 2: Dr. Stephen Donoghue, Dr. Mark Bowman and Dr. Gerry Ronan