Athro Prifysgol Abertawe yn cael ei benodi’n Gadeirydd Meddygaeth Anadlol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Keir Lewis wedi’i benodi ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe fel cadeirydd clinigol cyntaf y Bwrdd Iechyd ac, yn bresennol, yr unig gadeirydd clinigol mewn Meddygaeth Anadlol sy’n ymarfer yng Nghymru.

Mae’r Athro Lewis wedi bod yn gweithio fel Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Anadlol a Chyffredinol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am 12 blynedd, ac mae hefyd wedi dal swyddogaethau academaidd ym Mhrifysgol Abertawe ar hyd yr amser.

Bellach, mae wedi’i benodi i swydd ffurfiol â rôl iechyd ar y cyd â rôl academaidd, â’r nod o wella gofal i gleifion â chlefyd anadlol yma yn Hywel Dda a thu hwnt.

Professor Keith Lloyd, Head of Swansea University’s Medical School, Professor KeDywed Yr Athro Lewis (yn y canol yn y llun): “Gobeithiaf adeiladu ar y gwaith gwych sydd wedi’i gyflawni yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf i wella iechyd a lles pobl yn ein hardal trwy wneud cysylltiadau cadarnach ag academia.

“Trwy weithio’n agosach â phrifysgolion lleol, yn enwedig Ysgol Feddygaeth Abertawe, ac amryw sefydliadau ymchwil a masnachol ar draws y byd, rydym eisoes yn agor nifer o gyfleon mewn ymchwil a hyfforddiant.

“Mae ein cleifion yn cael mwy o fynediad at driniaethau blaengar, ac ymchwil sydd ar flaen y gad ac mae gennym lawer mwy o botensial i ryddhau brwdfrydedd ein staff a chreu partneriaethau newydd trwy brosiectau megis Grŵp Cydweithredol Rhanbarthol dros Iechyd ARCH (A Regional Collaboration for Health), Grŵp Cydweithredol y Canolbarth a gwaith arall sy’n cael ei wneud yn rhan o’r Bwrdd Partneriaeth Prifysgol.”

Mae’r Athro Lewis yn awdur meddygol uchel ei barch sydd wedi ysgrifennu dwsinau o bapurau gwreiddiol, yn ogystal â chyd-ysgrifennu a golygu llyfrau a phenodau mewn llyfrau ar iechyd anadlol ym meysydd rhoi’r gorau i ysmygu a diagnosis clinigol.

Mae wedi cyflwyno mewn cynadleddau meddygol ar draws y byd ac yn ar flaen y gad mewn denu cyllid ac ymchwil i ardaloedd Hywel Dda ac Abertawe.

Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd fydd yn lletya’r swydd, a bydd Yr Athro Lewis yn parhau yn ei rôl glinigol, yn bennaf yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Dywed Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein bodd â’r penodiad hwn ac rydym yn sicr mai’r Athro Lewis yw’r person cywir i lunio gofal, gan ddefnyddio academia, er mwyn gwella canlyniadau cleifion yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr BIP Hywel Dda: “Mae hwn yn benodiad arwyddocaol i’r Bwrdd Iechyd ac yn un fydd yn gwella ein tynfa i’r rheiny sy’n ceisio cyflogaeth ym maes meddygaeth anadlol yn ogystal ag apwyntiadau meddygol eraill.

“Yma yn ardal Hywel Dda, rydym yn ffodus o gael prifysgolion gwych ar stepen ein drws ac mae clinigwyr yn cael eu hannog i barhau a’u datblygiad proffesiynol tra’n gweithio yma.”

Bydd Yr Athro Lewis yn gweithio fel rhan  o dîm o ymgynghorwyr anadlol sydd eisoes yn effeithio ar bolisïau cenedlaethol a rhyngwladol ac yn ymchwilio i atal, diagnosio a thrin salwch anadlol, gan ddarparu gofall iechyd safonol i gleifion ar draws ardal Hywel Dda. Mae’r penodiad hwn yn eu helpu i wella cyfleon hyfforddi; i addysgu; ac i ymchwilio, gyda thystiolaeth o ganlyniadau penodol.

Mae gan Brifysgol Abertawe radd 5 seren am ragoriaeth addysgu, a hefyd o fewn 30 Uchaf y DU fel y nodwyd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, am feddygaeth, gwyddoniaeth, peirianneg, celfyddydau a dyniaethau. Mae twf y coleg meddygol gyda’r cyflymaf yn y DU.