Academydd yn galw ar gymdeithas i gefnogi bwydo ar y fron yn well

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bwydo ar y fron sydd orau ond peidiwch â'i wneud lle gallaf ei weld - dyna'r agwedd fwyaf cyffredin at fwydo ar y fron yn y DU heddiw, yn ôl academydd o Brifysgol Abertawe mewn rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Trends in Molecular Medicine (TMM).

Dr Amy BrownMae'r erthygl gan Dr Amy Brown, sy'n ystyried y rhwystrau cymdeithasol niferus mae menywod yn eu hwynebu pan fyddant am fwydo ar y fron, wedi'i chynnwys yn "Nurtering the Next Generation" - adolygiad o'r datblygiadau diweddaraf ym maes meddygaeth atgenhedlu.

Yn ôl Golygydd TMM, Christopher Pettigrew, nod y rhifyn arbennig oedd annog trafodaethau cadarnhaol am sut mae datblygiadau newydd yn herio llawer o'r daliadau sylfaenol ynghylch atgenhedlu. Meddai, "Mae newid sylweddol ar y gweill yn ein dealltwriaeth o sut mae'r amgylchedd a thechnolegau modern yn effeithio ar y genedlaeth nesaf ar lefel foleciwlaidd."

Meddai Dr Brown o'r Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi a'r Gwyddorau Cymdeithasol, "Rydym yn gwybod mai'r fron yw'r ffordd orau o fwydo babanod. Hoffem i ragor o fabanod gael eu bwydo ar y fron. Mae gennym bolisïau sy'n annog rhagor o famau newydd i fwydo ar y fron. Yn wir, mae llawer o famau'n dweud eu bod yn teimlo bod gormod o bwysau arnynt i fwydo ar y fron. Ond, mewn gwirionedd, mae ein hagwedd ni, fel cymdeithas, at famau sydd am fwydo ar y fron yn wael iawn ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn lefelau isel bwydo ar y fron yn y DU.

Yn yr erthygl, mae Dr Brown yn nodi y bydd y rhan fwyaf o fenywod yn gallu bwydo ar y fron ond ei bod yn hawdd i'w profiadau niweidio eu hyder neu eu penderfyniad i wneud hynny. Meddai: "Gwelwn storïau yn y cyfryngau'n aml am bobl yn dweud wrth fenywod nad oes hawl ganddynt i fwydo ar y fron mewn caffi neu siop neu'n gwneud sylwadau dirmygus sy'n awgrymu eu bod yn arddangos eu hunain neu'n gwneud rhywbeth personol iawn neu rywbeth sy'n halogi a ddylai gael ei gadw'n breifat.  Mae rhai gwleidyddion a phobl flaenllaw wedi dweud yn gyhoeddus y dylai menywod fod yn fwy ystyriol o deimladau pobl ond y cwbl mae mamau'n ceisio ei wneud yw rhoi bwyd i'w babanod."

"Ar y llaw arall, mae'n ymddangos bod cyfran fawr o'r cyhoedd yn hapus i weld y corff benywaidd yn cael ei bortreadu mewn ffordd rywiol mewn hysbysebion, cylchgronau a fideos cerddoriaeth. Yn aml iawn, gwelir yr un bobl sy'n cwyno am fam yn bwydo ar y fron yn addoli'r corff benywaidd pan gaiff ei  bortreadu ar ffurf arall. Nid yw'n anodd gweld pa fath o negeseuon rydym yn eu rhoi i'r genedlaeth nesaf ynglŷn â diben y corff benywaidd a pham mae llawer o fenywod yn teimlo gormod o embaras i fwydo ar y fron yn gyhoeddus."

Mae erthygl Dr Brown hefyd yn nodi mai bwyd fformiwla yw'r norm diwylliannol bellach oherwydd lefelau isel o fwydo ar y fron. Pan gaiff menywod anawsterau wrth fwydo ar y fron, gall fod yn anodd iddynt ddod o hyd i'r gefnogaeth iawn neu mae pobl eraill megis teulu a ffrindiau'n dweud wrth iddynt am roi'r gorau i fwydo ar y fron a rhoi potel i'r baban.

Meddai Dr Brown: "Rydym yn dweud wrth fenywod drwy feichiogrwydd mai'r fron sydd orau ac yna rydym yn eu gadael ar eu pennau eu hunain ar ôl iddynt roi genedigaeth neu hyd yn oed yn eu hannog i ddefnyddio fformiwla sy'n golygu bod llawer yn teimlo eu bod wedi 'methu'.

"I ddatrys y broblem hon, mae angen i ni symud o gymdeithas sy'n rhoi fformiwla i fabanod i un lle caiff bwydo ar y fron ei gefnogi a'i annog. Mae gwledydd fel Sweden wedi cynyddu eu cyfraddau bwydo ar y fron yn sylweddol drwy agweddau cadarnhaol a chefnogol iawn tuag at fwydo ar y fron a theuluoedd newydd yn gyffredinol. Yn Sweden, bwydo ar y fron yw'r peth arferol i'w wneud. I newid pethau yn y DU, mae angen i ni gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron yn well a chydnabod bod menywod sy'n bwydo ar y fron yn gwneud y gorau er lles eu babanod,"

Gallwch weld yr erthygl 'Breast is best but not in my backyard' gan Dr Amy Brown yma.