Ysgoloriaethau myfyrwyr yn talu am daith astudio i Decsas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd tri o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe’n ffarwelio ag Abertawe gan eu bod wedi derbyn ysgoloriaethau gan Sefydliad Prydeinig ac Americanaidd Tecsas (BAFTx) i astudio am semester ym Mhrifysgol A&M Tecsas (TAMU).

Students to study in Texas

Bydd y myfyrwyr llwyddiannus - Ivy Mumuni o Lundain, Kiran Mistry o Gofentri a Nathalie Farhoudi o Sweden – sydd oll yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf mewn Peirianneg Feddygol, yn treulio semester cyntaf eu hail flwyddyn yn astudio yn Nhecsas cyn dychwelyd i Abertawe am weddill eu hastudiaethau.

Mae’r rhaglen gyfnewid arloesol hon yn galluogi myfyrwyr i astudio dramor heb ychwanegu blwyddyn ychwanegol at eu hastudiaethau, gan ganiatáu iddynt astudio yn un o brifysgolion gorau UDA ac adeiladu eu sgiliau a’u cyflogadwyedd.

Y grŵp hwn fydd y drydedd garfan o fyfyrwyr Abertawe i gymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid, rhan allweddol o bartneriaeth strategol y Brifysgol â Thecsas sydd hefyd yn cynnwys cydweithrediadau ymchwil ac addysgu, trosglwyddo gwybodaeth, rhannu isadeiledd a chyfnewid staff academaidd.

Meddai Kiran: ‘Pan gododd y cyfle i astudio yn Nhecsas, gwnes i neidio ar y cyfle i astudio mewn rhan arall o’r byd sydd â chymaint o ras academaidd. Bydd yr ysgoloriaeth hon bellach yn caniatáu i mi ganolbwyntio’n fwy ar yr astudiaethau heb y straen ariannol ychwanegol.”

Cytunodd Ivy gan ddweud: “Mae’r cyfle i astudio yn Nhecsas yn gyfle gwych i mi archwilio sut y mae prifysgolion eraill yn dysgu’r radd hon a gweld y datblygiadau yn UDA. Mae’r ysgoloriaeth yn ffordd wych i mi ymlacio a mwynhau fy amser yno”.

Mae Nathalie hefyd wrth ei bodd gyda’r syniad o astudio yn Nhecsas a meddai: "Bydd y cyfle hwn i astudio yn Nhecsas yn gyfle gwych i mi archwilio diwylliant newydd ac ennill profiad o bersbectif addysgu gwahanol. Hefyd, bydd derbyn yr ysgoloriaeth hon yn caniatáu i mi gael amser gwych heb unrhyw bryderon!"

Sefydlwyd BAFTx i helpu wrth ddarparu cymorth ariannol a chyfleoedd addysgol i fyfyrwyr dawnus yn y DU ac UDA, a chredir mai Abertawe yw un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i dderbyn cyllid BAFTx er mwyn i fyfyrwyr deithio i Decsas.

Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth gyntaf gan BAFTx i David Rochelle sy’n fyfyriwr Peirianneg Feddygol yn 2013 a dychwelodd i’w astudiaethau yn Abertawe ym mis Ionawr. Meddai: “Ces i amser bendigedig yn astudio yn Nhecsas. Cwrddais i â phobl ardderchog a diolch i’r profiad rwyf bellach yn fwy ymroddedig fel myfyriwr ac yn beiriannydd gwell. Rwy’n hyderus y bydd y profiad yn fy helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi ar ôl i mi raddio.”

Meddai’r Is-lywydd ar gyfer Partneriaethau Strategol, yr Athro Mike Sullivan: "Rydym wrth ein boddau bod BAFTx yn parhau i gefnogi’n rhaglen gyfnewid myfyrwyr gyda Phrifysgol A&M Tecsas. Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn helpu’n myfyrwyr i fanteisio ar y cyfle heb ei ail hwn i astudio yn un o brifysgolion gorau’r UD a byddant hefyd yn helpu wrth gryfhau’r berthynas sy’n tyfu rhyngom ni a Thecsas.”

Meddai Susan Howard, Llywydd Sefydliad BAFTx: “Mae’n bleser gennym allu cefnogi’r cysylltiad cyfnewid myfyrwyr rhwng Prifysgol A&M Tecsas a Phrifysgol Abertawe, sydd eisoes yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn gobeithio y bydd y cysylltiadau a grëir yn para am oes, gan ddod â buddion i Decsas ac i Gymru." ­

Llun:  Athro Mike Sullivan, with Ivy, Kiran and Nathalie a Dr Raoul Van Loon.