Ymchwil yn dangos bod gwaith sifft hirdymor yn gysylltiedig ag amhariad ar allu’r ymennydd

Yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe a phrifysgolion Ewropeaidd nodedig eraill, gallai fod cysylltiad rhwng gwaith sifft hirdymor ac amhariad ar allu’r ymennydd.

Gwyddys fod gwaith sifft, fel lludded jet cronig, yn amharu ar gloc mewnol y corff ac fe’i cysylltwyd ag ystod o broblemau iechyd megis wlserau, clefyd cardiofasgiwlaidd, syndrom metabolaidd a rhai canserau.

Ond ni wyddys llawer am yr effaith bosibl ar swyddogaethau’r ymennydd, megis cof a chyflymder prosesu.

Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn ‘Occupational & Environmental Medicine’ yn awgrymu bod yr effaith yn fwy amlwg dros gyfnod o 10 mlynedd neu fwy, ac er bod modd cildroi’r effeithiau, gall hyn gymryd o leiaf bum mlynedd.

Meddai Dr Philip Tucker, Athro Seicoleg, Prifysgol Abertawe: “Mae’r astudiaeth yn dangos bod effeithiau hirdymor gwaith sifft ar gloc y corff yn niweidiol i iechyd corfforol gweithwyr yn ogystal ag i alluoedd meddyliol y gweithwyr. Gallai namau gwybyddol o’r fath effeithio ar iechyd gweithwyr sifft a’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu, yn ogystal ag ansawdd bywyd gweithwyr sifft.” 

Dilynodd yr ymchwilwyr alluoedd gwybyddol dros 3000 o bobl a oedd naill ai’n gweithio mewn ystod eang o sectorau neu a oedd wedi ymddeol, ar dri chyfnod gwahanol: 1996; 2001; a 2006.

Bu ychydig llai na hanner y sampl (1484), a ddaeth o restri cleifion tri meddyg iechyd galwedigaethol mewn tri rhanbarth gwahanol yn ne Ffrainc, yn gweithio sifftiau am o leiaf 50 niwrnod o’r flwyddyn.

Oedrannau union y cyfranogwyr oedd 32, 42, 52 a 62 pan gynhaliwyd y set gyntaf o brofion, a oedd â’r nod o asesu cof hirdymor a thymor byr; cyflymder prosesu; a galluoedd gwybyddol cyffredinol (byd-eang). At ei gilydd, aseswyd 1197 o bobl ar bob un o’r tri chyfnod.

Roedd tua un ym mhob pump o’r rhai hynny a oedd mewn gwaith (18.5%) a chyfran debyg o’r rhai a oedd wedi ymddeol (17.9%) wedi gweithio patrwm sifftiau a oedd yn cylchdroi rhwng boreau, prynhawniau a nosweithiau.

Roedd y set gyntaf o ddadansoddiadau’n ystyried a oedd unrhyw oriau gwaith annormal yn gysylltiedig â dirywiad mewn galluoedd gwybyddol.

Dangosodd y data fod gan y rhai hynny a oedd wrthi’n gweithio sifftiau, neu a fu’n gweithio sifftiau o’r blaen, sgoriau is o ran cof, cyflymder prosesu, a gallu’r ymennydd ar y cyfan na’r rhai hynny nad oeddent erioed wedi gweithio sifftiau.

Edrychodd yr ail set o ddadansoddiadau ar effaith gweithio patrwm sifftiau cylchdroadol, a phan gymharwyd y rhai hynny nad oeddent wedi gweithio sifftiau cylchdroadol o gwbl â’r rhai a oedd wedi, ac a fu’n gwneud hynny am 10 mlynedd neu fwy, canfuwyd bod gan y gweithwyr sifftiau cylchdroadol sgoriau cof a gwybyddol byd-eang is - cyfwerth â 6.5 mlynedd o ran dirywiad gwybyddol mewn cysylltiad ag oedran. 

Yn olaf, edrychodd yr ymchwilwyr ar gysylltiad posibl rhwng stopio gweithio sifftiau ac adfer o ran galluoedd gwybyddol. Roedd y canlyniadau’n dangos ei bod yn bosibl adfer galluoedd gwybyddol ar ôl stopio gweithio sifftiau, ond bod hynny’n cymryd o leiaf bum mlynedd, ac eithrio cyflymderau prosesu.

Gan mai astudiaeth arsylwadol yw hon, nid oes modd dod i unrhyw gasgliadau terfynol o ran achosion ac effeithiau, ond yn ôl yr ymchwilwyr, gallai’r amhariad ar gloc y corff greu straenachoswyr ffisiolegol a allai, yn eu tro, effeithio ar y modd y mae’r ymennydd yn gweithio.

Maent hefyd yn tynnu sylw at ymchwil arall sy’n cysylltu diffyg fitamin D o ganlyniad i ddatguddiad is i olau dydd â gwybyddiaeth is.  

“Mae’n bosib y gallai’r amhariad gwybyddol a arsylwyd yn yr astudiaeth bresennol gael canlyniadau pwysig o ran iechyd nid yn unig i’r unigolion dan sylw, ond hefyd i gymdeithas ar y cyfan, o ystyried y nifer gynyddol o swyddi mewn sefyllfaoedd perygl uchel a wneir gyda’r nos,” mae’r ymchwilwyr yn rhybuddio.

Fan lleiaf y mae eu canfyddiadau’n awgrymu y byddai’n werth monitro iechyd pobl a fu’n gweithio sifftiau am 10 mlynedd.

Ceir yr astudiaeth yn http://oem.bmj.com/lookup/doi/10.1136/oemed-2013-101993