Ymchwilwyr o Abertawe’n troi hollti mynyddoedd iâ â’i ben i waered

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae llawer o rewlifau’r byd yn cyfrannu at godi lefelau’r môr oherwydd bod iâ yn torri oddi ar y rhewlifau ac yn cwympo i mewn i’r cefnfor mewn proses a elwir yn ‘hollti’.

Fodd bynnag, ni wyddys digon am y ffordd y mae’r iâ yn hollti o’r rhewlif ac mae’n bosibl nad yw’n digwydd yn y ffordd y credid ynghynt, yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Nature Geoscience gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe.

Yn ystod hafau 2010 a 2011, monitrodd Timothy James a chydweithwyr o Grŵp Rhewlifeg Abertawe wyneb blaen rhewlif mawr o’r enw Helheim ar arfordir de-ddwyrain yr Ynys Las gan ddefnyddio camerâu gradd defnyddiwr a dulliau mapio arbenigol i gynhyrchu modelau 3D bob dydd o’r rhewlif wrth iddo lifo i’r cefnfor.  

Canfuont fod mynyddoedd iâ mawr, sy’n gallu mesur dros 1 cilomedr ciwbig, yn ffurfio wrth i’r rhewlif blygu wrth iddo geisio arnofio ac wrth i hafnau ar waelod y rhewlif ehangu. Mae’r astudiaeth yn dangos bod hafnau ar y wyneb, sydd yn aml yn ganolbwynt ar gyfer darogan pan fydd rhewlifau’n hollti, yn llai pwysig ar gyfer rhewlifau mawr nag y credid ynghynt. Meddai James, a arweiniodd yr astudiaeth: “Mae hwn yn ganfyddiad o bwys gan nad yw modelau cyfrifiadurol sy’n ceisio darogan ymddygiad rhewlifau ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd hon y mae rhewlifau’n colli iâ i’r môr.”

Mae deall ymddygiad rhewlifau yn bwysig iawn er mwyn darogan faint y bydd lefelau’r môr yn codi a pha mor gyflym y bydd hyn yn digwydd mewn hinsawdd sy’n cynhesu a bydd mesuriadau fel y rhain yn helpu i wella’r rhagfynegiadau hyn.

Derbyniodd yr ymchwil hon gymorth gan Ymddiriedolaeth Leverhulme , Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W) a’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), a 7fed Rhaglen Fframwaith yr Undeb Ewropeaidd, a Sefydliad Amgylcheddau Cynaliadwy Cymru (WISE)

   

  • Rhewlif Helheim yw un o’r rhewlifau mwyaf yn ne-ddwyrain yr Ynys Las. Mae’n mesur dros 200 cilomedr o hyd a 6 cilomedr o led a gall lifo mor gyflym â 30 m y dydd. 
  • Yn ystod yr astudiaeth, recordiodd yr awduron ddigwyddiad hollti ysblennydd ar rewlif Helheim gyda ffotograffiaeth treigl amser. Yn y fideo, mae’r rhewlif yn llifo i lawr o’r ddalen iâ i’r cefnfor ar ochr dde’r ffrâm. Ar ôl i grac ffurfio ar wyneb blaen y rhewlif, mae mynydd iâ mawr yn dechrau hollti gan gylchdroi’n ôl cyn chwalu yn y pen draw yn y dŵr sydd eisoes yn llawn iâ.  
  • Mae’r awduron yn rhan o Grŵp Rhewlifeg  Prifysgol Abertawe ac yn arweinwyr byd-eang mewn deall y prosesau sy’n gyrru newidiadau yn storau iâ’r ddaear a mesur cyfraniadau rhewlifau yn y gorffennol ac yn y dyfodol i godi lefelau’r môr.

Buoyant flexure and basal crevassing in dynamic mass loss at Helheim Glacier. Timothy D. James*, Tavi Murray, Nick Selmes, Kilian Scharrer a Martin O’Leary

Nature Geoscience, cyhoeddwyd ar-lein ar 13 Gorffennaf 2014.

Crynodeb (http://dx.doi.org/10.1038/ngeo2204