Ymchwil newydd yn dangos bod cŵn defaid yn defnyddio dwy reol syml wrth gasglu defaid

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil gan Dr Andrew King o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, i ddatblygu model bugeilio mathemategol, wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Interface y Gymdeithas Frenhinol heddiw (dydd Mercher, 27 Awst).

Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod cŵn defaid yn defnyddio dwy reol syml i gasglu nifer fawr o ddefaid at ei gilydd.

SHeep GPSLlun: Defaid yn gwisgo bagiau sy'n cynnwys dyfais GPS.

 

 

 

 

Yn ôl y gwyddonwyr, gall y darganfyddiad arwain at ddatblygu robotiaid sy'n gallu casglu da byw, datblygu technegau rheoli torfeydd a dulliau newydd  i lanhau'r amgylchedd.

Am y tro cyntaf mae gwyddonwyr wedi defnyddio technoleg GPS i ddeall sut mae cŵn defaid yn gwneud eu gwaith gystal.

Hyd yn hyn, doedd gan wyddonwyr unrhyw syniad sut oedd y cŵn yn llwyddo i gael cymaint o ddefaid anfodlon i symud i'r un cyfeiriad ar yr un pryd.

Dr Andrew KingRoedd Dr Andrew King o Brifysgol Abertawe (chwith), sy'n Gymrawd y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Naturiol, wedi rhoi bagiau yn cynnwys dyfais GPS hynod o gywir ar gefn praidd o ddefaid a chi defaid.

Roedd y ddyfais wedi'i ddylunio gan gyd-weithwyr o'r Royal Veterinary College yn Llundain.

Yna defnyddiodd Daniel Strömbom a'i gyd-weithwyr o Brifysgol Uppsala yn Sweden wybodaeth o'r dyfeisiadau, ynghyd ag efelychiadau cyfrifiadurol, i ddatblygu model bugeilio mathemategol.

Llwyddodd y tîm i ddarganfod bod y cŵn defaid yn debygol o ddefnyddio dwy reol syml - un i gasglu'r defaid pan maen nhw wedi gwasgaru, a'r llall i'w gyrru ymlaen pan maen nhw wedi casglu at ei gilydd.

Ar sail y model hwn gallai un bugail gasglu praidd o hyd at 100 o ddefaid unigol drwy ddefnyddio'r ddwy reol yma.

‌Meddai Dr King: "Os ydych chi'n gwylio cŵn defaid yn casglu defaid, mae'r ci yn symud yn ôl ac ymlaen tu ôl i'r praidd yn union y ffordd rydym ni wedi gweld yn ein model.

"Roedd yn rhaid i ni feddwl am beth oedd y ci'n gallu ei gweld er mwyn datblygu ein model. Mae'r ci'n gweld pethau gwyn, gwlanog  o'i flaen.

"Os yw'r ci'n gweld bylchau rhwng y defaid, neu os yw’r bylchau'n cynyddu, mae'n rhaid i'r ci ddod â'r defaid at ei gilydd."

Yn ôl Daniel Strömbom: "’Dyw modelau eraill ddim yn gallu casglu grwpiau mawr - cyn gynted ag y mae'r niferoedd o ddefaid unigol yn uwch na 50, mae angen sawl bugail a sawl ci defaid."

Dywedodd Dr King: "Gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio mewn sawl ffordd fel rheoli torfeydd, glanhau'r amgylchedd, casglu da byw, cadw anifeiliaid oddi wrth ardaloedd sensitif, a chasglu neu arwain grwpiau o robotiaid sy'n archwilio ardal benodol."

Mae’r ymchwil wedi’i gyhoeddi yng nghylchgrawn y Royal Society Interface.