Y Ganolfan NanoIechyd yn cynnal Digwyddiad Deintyddiaeth drwy'r dydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddar cynhaliodd Canolfan NanoIechyd (CNH) Prifysgol Abertawe Ddigwyddiad Deintyddiaeth drwy'r dydd, yn cynnwys siaradwyr o'r diwydiant deintyddiaeth, y GIG a'r byd academaidd. Wedi'i gynnal gan y Ganolfan NanoIechyd, roedd y digwyddiad yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio a gwybodaeth am y datblygiadau technolegol diweddaraf yn y sector deintyddiaeth.

Centre for NanoHealth Ilyas KhanSefydlwyd CNH yn 2009, ac mae'n amgylchedd arloesol agored sy'n hwyluso cwmnïau, ymchwilwyr, clinigwyr y GIG ac academyddion i ddatblygu cenhedlaeth newydd gofal iechyd gan ddefnyddio nanodechnoleg.

Cadeiriwyd y digwyddiad, a fynychwyd gan 30 o ddeintyddion o bob rhan o Gymru, gan Dr Paul Lewis, Athro Cefnogol ym Mhrifysgol Abertawe. Clywodd y rhai a ddaeth i'r digwyddiad gyflwyniadau gan feddygon ymgynghorol blaenllaw: Mr Conor Marnane, Meddyg Ymgynghorol Otolaryngoleg a Phennaeth Llawfeddygaeth y Gwddf yn Ysbyty Singleton; a Mr James Owens, Meddyg Ymgynghorol Deintyddiaeth Adferol ac Adsefydlu'r Geg yn Ysbyty Treforys.

Ar y cyd â Dr Georgina Menzies, ymchwilydd yn CNH ym Mhrifysgol Abertawe, roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys y Firws Papiloma Dynol, adsefydlu'r geg ar ôl llawdriniaeth a datgelu canser y breuant a'r oroffaryncs yn gynnar drwy sbectrosgopeg optegol.

Meddai Mr Conor Marnane, "Darparodd y digwyddiad hwn fforwm i rwydweithio a rhannu cyfleoedd addysgol â chydweithwyr deintyddol ac o'r brifysgol. Fel Llawfeddyg y Pen a'r Gwddf, roeddwn yn gallu cymryd y cyfle hwn i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau newydd ym maes gwneud diagnosis a thrin canser y geg. Mae gan ddeintyddion rôl bwysig i'w chwarae drwy wneud diagnosis o ganser y geg yn gynnar, a rhoddodd digwyddiad fel hwn, gyda chynifer o ddeintyddion gyda'i gilydd, gyfle gwych i addysgu a thrafod y broblem iechyd bwysig a chynyddol gyffredin hon."

Ychwanegodd Mr Marnane, "Cymrom y cyfle hefyd i gyflwyno canlyniadau prosiect ymchwil ar y cyd a allai dorri tir newydd, a gynhaliwyd gan y Ganolfan NanoIechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac Adran y Glust, y Trwyn a'r Gwddf (ENT) Ysbyty Singleton i ddull newydd o wneud diagnosis o ganser yn gynnar gan ddefnyddio samplau poer, a allai fod yn ffordd rad a syml o sgrinio ar gyfer canser y geg mewn deintyddfa neu feddygfa rhyw ddydd."

Amlygwyd technoleg ddeintyddol yn sesiynau'r prynhawn y digwyddiad. Rhoddodd Dr Owen Guy gyflwyniad ar y cyfleoedd cydweithio ac ymchwil diweddaraf yn CNH, yna cafwyd taith o'r cyfleusterau a chyfle i weld y cyfarpar o'r radd flaenaf a chwrdd â'r ymchwilwyr blaenllaw sy'n gweithio yn y Ganolfan. Roedd y daith yn cynnwys ymweld â'r labordai biofeddygol categori 2 sy'n cynnig galluoedd bioleg foleciwlaidd a chelloedd, gan gynnwys microsgopeg gydffocal, systemau dadansoddi mewnbwn uchel/cynnwys uchel, microfioleg, meddygaeth adfywiol, peirianneg meinweoedd a nano-genodocsicoleg.

Centre for NanoHealth Henry ScheinYna rhoddodd Gareth Tomkinson o Renishaw arddangosiad Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)/Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAM) a defnyddio argraffu 3D mewn deintyddiaeth. Gyda'i restr sy'n tyfu o dechnolegau gweithgynhyrchu a mesur manwl gywir, mae Renishaw yn tyfu i fod yn gyflenwr cyfarpar a fframwaith deintyddol mawr. Dilynwyd hyn gan arddangosiad gan Jackie Cooper, Rheolwr Cynnyrch Laserau'r DU yn Henry Schein Dental, ar sut y defnyddir technoleg laserau mewn deintyddiaeth.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Mr James Owens, "Bu'n ddigwyddiad ardderchog, gan gyfuno arferion deintyddol cyfredol â thechnolegau newydd. Roedd y cyfleuster CNH a'r gwaith arloesol a wneir yno yn rhyfeddol."