Y Caffi Gwyddoniaeth: Uwch-dechnoleg yn yr Ynys Las: cipolwg ar ddyfodol haen iâ yr Ynys Las

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe yn cynnig cyfleoedd i unrhyw un ddarganfod mwy am feysydd gwyddonol newydd, cyffrous a chyfoes mewn ffordd anffurfiol a difyr.

Teitl: Uwch-dechnoleg yn yr Ynys Las: cipolwg ar ddyfodol haen iâ yr Ynys Las

Siaradwr: Yr Athro Tavi Murray o Grŵp Rhewlifeg Prifysgol Abertawe.

Dyddiad: Dydd Mercher 26 Mawrth 2014

Amser: 7:30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Rhad ac am ddim, croeso i bawb

Mae’r broses o golli màs o haenau iâ yr Ynys Las a’r Antarctig yn cael ei rheoli’n bennaf gan ymrannu mynyddoedd iâ, lle y mae’r haen iâ mewn cysylltiad â dyfroedd cefnfor. Yn y sgwrs hon, bydd yr Athro Murray yn siarad am newidiadau diweddar yn yr Ynys Las, yn ogystal â rhai o ganlyniadau prosiect mawr gan Brifysgol Abertawe sy’n ceisio deall prosesau ymrannu mynyddoedd iâ.

Yn ystod y prosiect, gosodwyd rhwydwaith di-wifr o synwyryddion GPS ar ymyl rhewlif dŵr llanw: darparodd y synwyryddion ddata bob ychydig eiliadau hyd at bwynt ymrannu mynydd iâ. Trawsyrrwyd y data yn ôl i orsafoedd sylfaen a leolwyd ar graig ar y naill ochr a’r llall o’r rhewlif. 

Roedd tua 20 synhwyrydd yn casglu data dros ardal ~16 cilomedr sgwâr o Rewlif Helheim yn ne-ddwyrain yr Ynys Las. Darparodd y rhwydwaith ddata cyflymder ac uchder o ansawdd da a oedd yn dangos lefel ddigynsail o fanylion ar gyfer ardal ymylol allweddol y rhewlif, gan roi gwybodaeth newydd am sut mae mynyddoedd iâ yn ymrannu. Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Murray hefyd yn dangos rhywfaint o harddwch ysbrydoledig tirweddau’r Ynys Las.

Manylion cyswllt: http://swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/

Ynglŷn â Chaffi Gwyddoniaeth Cymru

Bob mis, bydd arbenigwr arweiniol yn ei faes yn rhoi anerchiad cyflwyniadol byr a ddilynir gan sgwrs anffurfiol, gyfeillgar. Gallwch eistedd yn ôl gyda diod a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a’r ddadl. Mae trefnwyr y Caffi Gwyddoniaeth yn ymrwymedig i annog y cyhoedd i ymgysylltu â gwyddoniaeth a gwneud gwyddoniaeth yn atebol.

Cynhelir digwyddiadau Caffi Gwyddoniaeth Cymru mewn lleoliadau anffurfiol yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. Maent yn anffurfiol, yn hygyrch ac yn rhad ac am ddim i gael mynediad iddynt. Fel rheol, byddant yn dechrau gyda sgwrs fer gan y siaradwr, sef gwyddonydd neu ysgrifennwr fel arfer. Wedyn bydd egwyl fer a thrafodaeth a fydd yn para tua awr.

Mae pynciau blaenorol wedi cynnwys mater tywyll, annwyd cyffredin, Dr Who, y Glec Fawr a therapïau amgen.

Cynhaliwyd y Cafes Scientifiques cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn Leeds ym 1998. Wedi hynny, lledaenodd y caffis yn raddol ar draws y wlad.

Ar hyn o bryd, mae tua 40 o gaffis yn cyfarfod yn rheolaidd i glywed gwyddonwyr neu ysgrifenwyr gwyddoniaeth yn siarad am eu gwaith a’i drafod gyda chynulleidfaoedd amrywiol.