"Why Christianity Makes Sense: C.S. Lewis and the Meaning of Life"

Mae cyfres ddarlithoedd diwinyddiaeth Prifysgol Abertawe 2013/14 yn parhau gyda darlith gan Yr Athro Alister McGrath o Brifysgol Rhydychen.

Professor Alister McGrathSefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn wreiddiol gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol, ac mae’r rhaglen wedi cynnwys arweinwyr Eglwysig o fri rhyngwladol ac academyddion sy'n enwog yn fyd-eang sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.

Teitl y ddarlith: "Why Christianity Makes Sense: C.S. Lewis and the Meaning of Life"

Siaradwr:Yr Athro Alister McGrath, Athro Gwyddoniaeth a Chrefydd Andreas Idreosym Mhrifysgol Rhydychen.

Dyddiad: Dydd Llun, 19 Mai 2014

Amser: 7:00pm

Lleoliad: Darlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb

Dechreuodd y diwinydd nodedig, Yr Athro McGrath, ei yrfa academaidd ym maes y gwyddorau naturiol, cyn newid i astudio diwinyddiaeth a hanes deallus,gan ymwneud â dadleuon diwylliannol ehangach o bryd i'w gilydd ynghylch rhesymoledd a pherthnasedd y ffydd Gristnogol.

Ewch i http://alistermcgrath.weebly.com/