'When Everything’s Connected... And Big Data becomes Really, Really Big' Prifysgol Abertawe – Labordai Ymchwil HP, Califfornia, UDA yn darparu campysau clyfar

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ym mis Mawrth 2014, ffurfiwyd partneriaeth ymchwil unigryw rhwng Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe a labordai ymchwil HP yn Palo Alto, Califfornia, fydd yn ymgymryd â gwaith arloesol ym meysydd cyfathrebu deallus, data dadansoddol, synwyryddion gwyrdd a diogelwch seiber.

Y bwriad yw trawsnewid Campws y Bae Prifysgol Abertawe i fod yn gampws clyfar. Fel rhan o'r bartneriaeth hon, bydd Dr Amip Shah - sy'n arwain ymchwil IOT, datblygu technoleg, a gweithgareddau masnacheiddio yn Labordai HP - yn cyflwyno enghreifftiau ar y sut bydd y dechnoleg newydd yn dylanwadu’n bositif ar ansawdd ein bywydau. 


Teitl y ddarlith: ‘When Everything’s Connected... And Big Data becomes Really, Really Big’

Siaradwr: Dr. Amip Shah, Labordai HP (Califfornia, UDA)

Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Mehefin

Amser: 10.30am

Lleoliad: Darlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe

Pris mynediad: Mynediad am ddim, croeso cynnes i bawb


Gwybodaeth bellach:

  • Gwahoddwr - Dr. Amit Mehta, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe
  • Cyflwyniadau gan yr Athro Richard Davies (Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe) a’r Athro Javier Bonet (Pennaeth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe)

Wrth i’r ‘Internet of Things’ (IoT) ddod yn realiti, mae popeth rydym yn cyffwrdd - o’r taclwn yn ein cartrefi i’r heolydd yn ein dinasoedd - gall pob un cael eu monitor can rhwydwaith sensor. O ddiogelwch cyhoeddus ac iechyd personol i gridiau trydan a systemau traffig, gellir cael syniad o fudd y tarfu drwy’r gallu i ganfod data ar draws y dyfeisiadau cysylltiedig hyn. Yn y drafodaeth hon bydd Dr. Amip Shah yn trafod sut mae technoleg yn cael ei datblygu i ddiogelu budd yn yr ‘Internet of Things’ (IoT) sy’n datblygu, ar draws cymwysiadau defnyddwyr, masnach a diwydiant.

Mae Dr. Amip Shah yn arwain ymchwil, datblygu technoleg a gweithgareddau masnacheiddio yn Labordai HP ar gyfer y ‘Rhyngrwyd o Bethau’ a’i oblygiadau cysylltiedig ar gyfer dosbarth newydd o systemau ‘seibr-ffisegol’. Mae Dr. Shah wedi ysgrifennu ac wedi cyd-ysgrifennu dros 100 o bapurau ac adroddiadau technegol ym meysydd technoleg gwybodaeth, rheoli ynni, cynaliadwyedd amgylcheddol, a pholisi egni. Nodwyd ei enw ar dros 70 o ddatgeliadau dyfeisio, ac mae llawer ohonyn nhw wedi’u ffeilio fel ceisiadau patent yn yr Unol Daleithiau a thramor. 

Safbwyntiau atodol byr:

  • “Smart Cities at Newcastle”, gan Dr. James Callaghan (Prifysgol Newcastle)
  • “Cyber-Security for Future Cities”, gan yr Athro Tom Chen (City University, Llundain)

Bydd arbenigwyr eraill o HP yn bresennol er mwyn trafod a rhwydweithio wedi’r ddarlith:Mateen Greenway (HP Fellow a CTO, HP Future Cities), Martin Houghton (Partner Rheoli HP Analytics a  Rheoli Data EMEA), a David L. Morgan (HP Wales).

RSVP i Dr. Amit Mehta, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe drwy e-bostio a.mehta@swansea.ac.uk