Tocynnau digwyddiad Paralympaidd mwyaf Cymru’n mynd ar werth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r aros ar ben. Mae’r tocynnau ar gyfer Pencampwriaethau Athletau Ewrop Abertawe y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn 2014 - y digwyddiad Paralympaidd mwyaf erioed a gynhelir yng Nghymru - yn mynd ar werth heddiw, 17 Ebrill, 2014.

Swansea 2014 championship mark

Gydag ychydig dros bedwar mis i fynd tan y seremoni agoriadol, mae Abertawe 2014 wedi rhyddhau 15,000 o docynnau ar gyfer y Pencampwriaethau. Mae’r tocynnau ar gael o wefan www.swansea2014.com, ac o Ganolfan Hamdden Penyrheol, a Chanolfan Dwristiaeth Abertawe.

 

Gyda phris y tocynnau’n amrywio o £3 i £7 ar gyfer pob sesiwn, gall pobl y ddinas a chefnogwyr athletau ar hyd y wlad ddod at ei gilydd i wylio un o uchafbwyntiau calendr chwaraeon 2014. Mae tocynnau ar gael ar gyfer y sesiynau bore a phrynhawn.

Cynhelir Abertawe 2014 ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe rhwng y 18fed a’r 23ain Awst eleni a bydd tua 600 o athletwyr gorau’r byd yn cystadlu yno am yr anrhydedd wrth iddynt anelu at gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Rio yn 2016.

Gyda chymaint o Baralympwyr a Phencampwyr y Byd o dros 40 o wledydd yn cystadlu, mae’r  trefnwyr yn gobeithio sicrhau mai dyma fydd  y Pencampwriaethau Ewropeaidd gorau hyd yma.

Swansea 2014 ticketing pic Welsh

Er na fydd cystadleuwyr y Bencampwriaeth yn hysbys tan yr haf, mae rhai’r o’r Paralymwyr mwyaf adnabyddus eisoes wedi’u cynnwys yn rhaglen Abertawe 2014, gan gynnwys: Jonnie Peacock, Aled Sion Davies, Hannah Cockcroft, Richard Whitehead, David Weir, Marcel Hug, Josie Pearson a Marie Van Rhijn.

 

 

 

Dywedodd Paul Thorburn, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Abertawe 2014:

“Mae Abertawe 2014 yn ddigwyddiad hynod gyffrous i’r ddinas ac i Gymru. Bydd y Pencampwriaethau yn denu  cefnogwyr o bob rhan o Ewrop wrth i'r athletwyr gorau o’r cyfandir frwydro am fedal aur.

Rydym am i gymaint o bobl â phosibl cael y profiad o wylio’r digwyddiad hanesyddol hwn, felly rydym wedi cynyddu cynhwysedd y lleoliad a sicrhau bod prisiau’r tocynnau’n  rhesymol”.

Dywedodd Xavier Gonzalez, Prif Weithredwr yr IPC:

“Dyma’r digwyddiad para-athelatu mwyaf a gynhelir ym Mhrydain ers y Gemau Olympaidd yn 2012, a bydd sawl un o’r athletwyr a gafodd llwyddiant dwy flynedd yn ôl yn cystadlu yma.

“O ganlyniad, disgwylir galw mawr am docynnau, ac rydym yn argymell i bobl brynu eu tocynnau cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael eu siomi”.

Cyflwynir y Pencampwriaethau gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Chwaraeon Anabledd Cymru, Athletau Prydain, Athletau Cymru a Llywodraeth Cymru.         

Llun (o’r chwith i’r dde) Paralympwyr Prydeinig: Josie Pearson, Aled Sion Davies, Hannah Cockcroft, Richard Whitehead a Nathan Stephens