Rhaglen datblygu arweinyddiaeth i BBaChau yn adrodd ar hwb swyddi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect a arweinir gan Brifysgol Abertawe sy’n darparu rhaglenni datblygu arweinyddiaeth i BBaChau yn Ardal Gydgyfeirio Cymru wedi adrodd ei fod wedi helpu busnesau yng Nghymru i greu dros 1,600 o swyddi yn ei dair blynedd gyntaf.

LEAD Wales report 2013 Yn ei adroddiad blynyddol, mae rhaglen LEAD Cymru, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Phrifysgolion Abertawe a Bangor, yn rhoi manylion ar sut y bu’n gwneud gwahaniaeth gyda’i hyfforddiant datblygu i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) sy’n cyfrif am dros 99% o’r holl gwmnïau sector preifat yng Nghymru. Mae’r prosiect yn darparu perchen-reolwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau â rhaglen ddatblygu sy’n ddeng mis o hyd i wella eu gallu i dyfu gan helpu i gyfrannu at y broses o greu swyddi newydd ar draws yr Ardal Gydgyfeirio.

Mae LEAD Cymru wedi gwneud 3 blynedd o’i rhaglen 5 mlynedd hyd yma ac mae’r canlyniadau’n dangos bod y rhaglen yn gwneud yn well na’r disgwyl a’i bod eisoes wedi creu 1633 o swyddi newydd i Gymru. 

Meddai Ceri Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro’r Adran Ymchwil ac Arloesi : “Gan dybio y bydd y duedd hon yn parhau ar gyfer gweddill y rhaglen tan fis Mehefin 2015 mae potensial y gallai cyfranogwyr LEAD Cymru greu rhwng 2,500-3,500 o swyddi newydd. Mae’n debygol y bydd hyn yn cael effaith fwy yng Nghymru ar adeg pan fo llawer o gwmnïau’n ei chael hi’n anodd, wrth i’r sector cyhoeddus fynd yn llai a phan fo gwir angen ffyrdd o gynyddu cyfleoedd am swyddi ar draws y genedl. Mae hwn yn ganlyniad posibl sylweddol a bydd tîm LEAD Cymru’n parhau i ddarparu rhaglen werthfawr i’r rhai sy’n cymryd rhan.”

Ymhlith prif ganfyddiadau’r adroddiad oedd:-

  • Yn ystod 10 mis y rhaglen, adroddodd cyfranogwyr am gynnydd net o £20.5 miliwn yn eu trosiant.  Mae hyn yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o £77,000 ymhlith y 266 o gyfranogwyr a roddodd adroddiad.
  • Mae 97% o’r cyfranogwyr yn adrodd bod y rhaglen wedi cael effaith bersonol sylweddol arnynt a’i bod wedi newid y ffordd y maent yn gweithio.  

Meddai Mr Jones: “Gan edrych ymlaen at y dyfodol, mae tîm LEAD Cymru wrthi’n chwilio am ffyrdd o ymgysylltu â mwy o fusnesau a gweithio’n fwy effeithiol gyda pherchen-reolwyr, cyfarwyddwyr a’u staff allweddol mewn cwmnïau o wahanol faint, ac ar gyfnodau gwahanol yn eu datblygiad.”

Gwnaeth Rachael Wheatley, Cyfarwyddwr y cwmni dylunio creadigol a leolir yn Abertawe, Waters Creative Ltd, fynychu rhaglen LEAD Cymru a meddai: "Mewn busnes mae’n hollbwysig eich bod yn eich deall eich hun a sut yr ydych yn dylanwadu ar eich tîm, fel arweinydd. Rwyf yn sicr yn teimlo bod LEAD Cymru wedi rhoi ‘amser allan’ i mi gael edrych ar ein busnes yn y ffordd hon. Yn sgil y ddysg hon, rydym yn fwy creadigol fel cwmni; rydym yn dîm proffesiynol sydd wedi tyfu yn ystod y 18 mis diwethaf gan 40%."

Gellir gweld copi o’r adroddiad yma.